Ansawdd Ymchwil
Mae Prifysgol Caerdydd ymhlith Prifysgolion y DU sydd ar y brig o ran ymchwil, gan bwysleisio ei henw da cynyddol fel un o brifysgolion mwyaf arloesol, uchelgeisiol a llwyddiannus y wlad. Yn y dadansoddiad annibynnol diweddaraf o ansawdd ymchwil prifysgolion y DU, esgynnodd Prifysgol Caerdydd wyth lle yn nhabl ymchwil y wlad gyfan i'r seithfed safle o 106 o sefydliadau. Cafodd saith o ysgolion Prifysgol Caerdydd y radd 5* uchaf. Mae chwarter staff y Brifysgol a aseswyd bellach yn gweithio yn y meysydd hyn ac mae'r Brifysgol yn y seithfed safle ym Mhrydain o ran canran y staff sy'n gweithio mewn ysgolion gradd 5*- a gradd 5, sef 87. Denwyd athrawon ymchwil blaenllaw i Gaerdydd o bob cwr o'r DU a'r byd, gan roi mantais i fyfyrwyr trwy ychwanegu at yr amrywiaeth diwylliannol ac academaidd cyfoethog ar y campws.
| Trefn y Prifysgolion | Prifysgol |
|---|---|
| 1 | Cambridge |
| 2 | Imperial College |
| 3 | Oxford |
| 4 | London School of Economics |
| 5 | Warwick |
| 6 | University College London |
| 7 | Cardiff |
| 8 | Manchester |
| 9 | Essex |
| 10 | Southampton |
| 11 | Durham |
| 12 | Lancaster |
| 13 | Sheffield |
| 14 | Edinburgh |
| 15 | Bristol |
| Cyfanswn 106 Brifysgolion |

