Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

English

Yr Ysgrifenyddiaeth

Ysgrifennydd y Brifysgol ac Ysgrifennydd y Cyngor: Dr C B Turner

Croeso i hafan Ysgrifenyddiaeth Prifysgol Caerdydd.

Calendr o Gyfarfodydd 2006-07

Llawlyfr Gweinyddol 2005-06 (drwy Wefan y Staff)

Cyflwyniad Senedd: 22 Tachwedd 2006 (drwy Wefan y Staff)

Membership of University Council

O dan gyfarwyddyd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol ac Ysgrifennydd y Brifysgol, Dr Chris Turner, arweinir yr Ysgrifenyddiaeth gan Ysgrifennydd Cynorthwyol, Sharon Orton, gyda chymorth Cynorthwyydd Gweinyddol, Liz Reyes, a thîm o staff clerigol a staff argraffu.

Nod yr Ysgrifenyddiaeth yw darparu cymorth effeithiol ac effeithlon i’r Brifysgol wrth iddi fynd ar drywydd rhagoriaeth mewn addysgu ac ymchwil. Mae llawer o’n gwaith yn canolbwyntio ar sicrhau bod y pwyllgorau sy’n cynnal llywodraethiant y Brifysgol yn rhedeg yn llyfn. Ni hefyd yw’r is-adran sy’n cydlynu darparu a dosbarthu gwybodaeth gyffredinol i’r staff ac i aelodau’r pwyllgorau.

Prif swyddogaeth yr Ysgrifenyddiaeth yw cydlynu busnes a threfniadau cyfarfodydd y prif bwyllgorau. Mae hynny’n cynnwys y Calendr o Gyfarfodydd, aelodaeth y pwyllgorau, ac argraffu a dosbarthu holl bapurau’r pwyllgorau. 

Y Senedd a’r Cyngor sy’n ymdrin â phob newid i’r Siarter, y Statudau, yr Ordiniannau a Rheoliadau’r Senedd.
 
Ysgrifennydd y Brifysgol yw’r pwynt cysylltu ar gyfer cyflwyno deisebau i’r Ymwelydd. Ni cheir cyflwyno deiseb tan i’r holl weithdrefnau mewnol perthnasol gael eu dihysbyddu. Dylid cyfeirio gohebiaeth at:

 

Yr Ymwelydd, d/o Ysgrifennydd y Brifysgol

Ystafell 101

47 Plas y Parc,
Cathays,
Caerdydd,
 .
CF10 3AT.