Gwasanaethau Campws
Mae Gwasanaethau Campws yn cynnwys:
- Y Tîm Codi a Chario
- Llogi Cratiau Pacio
- Porthorion yr Adeiladau
Mae’n bwysig bod unrhyw Wasanaeth Campws y gall fod ei angen yn cael ei ARCHEBU o leiaf wythnos ymlaen llaw. Gellir ei archebu’n ysgrifenedig drwy gysylltu â:
yn achos ceisiadau am Godi a Chario:
or Handling@cf.ac.uk (029) 208 74320 fax (029) 208 74646.
Caiff y tîm eu goruchwylio gan y Prif Borthor, Terry Burnett. Hwy sy’n gyfrifol am y symud celfi bach, desgiau, cadeiriau, cyfrifiaduron, llyfrau, offer ac ati o ddydd i ddydd. Byddant hefyd yn dosbarthu parseli mewnol ac yn casglu gwastraff cyfrinachol (bob dydd Mercher) cyhyd â bod y gwaith o fewn ffiniau’r campws. Ni chânt wneud gwaith y tu allan i ffiniau’r campws a’r tu allan i oriau gwaith arferol oni fydd hynny wedi’i drefnu ymlaen llaw gyda’r Prif Borthor. Sylwch nad ydynt yn gweithio ar ôl 4:30pm. Os dymunwch archebu’r tîm, cysylltwch â Terry Burnett. Rhowch rybudd rhesymol o’r dasg er mwyn i’r Prif Borthor gael amser i gynllunio’r gwaith i’r tîm. Sylwch hefyd eu bod yn hynod o brysur yn ystod y cyfnodau yn union cyn ac ar ôl yr arholiadau, ac y gall eich tasg gael ei gohirio os bydd yn cyd-daro â’r cyfnodau hynny.Llogi Cratiau Pacio
Llogi Cratiau Pacio
Mae’r gwasanaeth hwn wedi’i sefydlu i ddarparu ar gyfer adegau pan fydd angen symud pethau o swyddfa i swyddfa. Fel rheol, y tîm Codi a Chario fydd yn gwneud y gwaith. Ni ddylid defnyddio’r cyfleuster hwn i storio eitemau am gyfnod hir nac i gymryd lle’r drefn arferol o logi cratiau oddi wrth Pickfords Cyf.
Codir tâl llogi o 50 ceiniog y dydd am bob crât er mwyn talu’r costau rhedeg (cael cratiau newydd yn lle’r rhai sydd wedi torri, ac ati). Ond os collir un o’r cratiau neu os na ddychwelir y nifer cywir o gratiau, codir y tâl llawn o £25.00 + TAW ar y llogwr am bob un o’r cratiau sydd ar goll. Gellir llogi cratiau (os byddant ar gael) drwy anfon e-bost i Handling@cardiff.ac.uk neu drwy ffonio Terry Burnett ar est. 74320. Codir tâl o’r dyddiad y caiff cratiau gwag eu dosbarthu hyd at y diwrnod y cânt eu dychwelyd. Mae gofyn i’r adran lofnodi am y cratiau a chael llofnod amdanynt gan y tîm Codi a Chario pan gânt eu dychwelyd. Rhoir yr amser a’r dyddiad wrth bob llofnod. Ar ôl i’r cratiau gael eu defnyddio a’u gwacáu, rhaid i geisiadau iddynt gael eu casglu gyrraedd cyn hanner dydd.
Porthorion yr Adeiladau
Caiff porthorion yr Adeiladau hefyd eu goruchwylio gan y Rheolwr Gwasanaethau Ategol, Peter McDonnell. Byddant ar ddyletswydd rhwng 07:30 a 22:00, Llun-Iau (21:30 ar nos Gwener). Mae eu dyletswyddau’n cynnwys:
- Agor a diogelu adeiladau enwebedig y Brifysgol yn unol â’r gweithdrefnau.
- Darparu dyletswyddau derbynfa mewn adeiladau enwebedig, gan gynnwys gofalu am allweddi, cadw cofnodion ac ymdrin ag ymwelwyr.
- Cynorthwyo pobl anabl, a rheoli mynediad i’r adeilad.
- Helpu i wacáu adeiladau drwy gyfeirio staff at y man ymgynnull priodol.
- Gwirio pob ffôn argyfwng ym mhob lifft.
- Profi’r panel larwm tân, yn unol â chyfarwyddyd y Pennaeth Gwarchodaeth Cyfeirio nwyddau sydd i’w dosbarthu i’r adrannau.
Gellir cael rhagor o wybodaeth oddi wrth:
Peter McDonnell. Tel (029) 208 74733 McDonnell@cf.ac.uk

