
Mae gan yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd adnoddau da ac enw da ar sail ei gwaith ymchwil a’r addysgu sy’n cael ei seilio ar yr ymchwil honno, gan gyfuno’r disgyblaethau a ganlyn:
Yn yr Asesiad Ansawdd Addysgu diweddaraf, cafodd yr Ysgol radd 'Rhagorol' ac ers hynny mae’r Ysgol wedi bod yn archwilio’i darpariaeth addysgu yn rheolaidd. Rydyn ni’n gofyn barn arbenigwyr allanol a’n myfyrwyr ni’n hunain, er mwyn sicrhau bod gwaith dysgu ac addysgu’r Ysgol yn dal i gyrraedd y safon uchaf.
Rydyn ni’n gymuned o ymchwilwyr ac addysgwyr, israddedigion ac ôl-raddedigion sy’n ymroi i astudio’r gorffennol o’r cyfnod cynhanesyddol hyd at gymdeithasau cyfoes. Mae cynnwys y disgyblaethau hyn i gyd mewn un Ysgol yn dod â llawer o fanteision i’r staff a’r myfyrwyr.
Gallwn gynnig ystod aruthrol o fodiwlau sy’n cael eu haddysgu ynghyd â mesur helaeth o ddewis a hyblygrwydd yn y disgyblaethau a rhyngddyn nhw. Mae’r enw ‘Ysgol’ yn cael ei arddel yn hytrach nag ‘adran’ oherwydd ei maint ac oherwydd ehangder y pynciau sydd ar gael.
Mae gennyn ni berthynas dda nid yn unig â’r adrannau eraill yn y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, ond hefyd ag Amgueddfa Cymru gerllaw, a hyn i gyd mewn prifddinas gyffrous sy’n dal i ddatblygu ac sydd â’i hanes difyr ei hun a chefndir trefol, gwledig a morol sy’n llawn diddordeb a harddwch.


