Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Cloddio Caerau

Cymuned yn Darganfod Bryngaer Gudd yng Nghaerdydd

 

 

Rhwng 24 Mehefin a 19 Gorffennaf 2013 bydd aelodau o’r gymuned a phlant ysgol yng ngorllewin Caerdydd yn cydweithio ag archaeolegwyr proffesiynol i ddatgelu cyfrinachau un o’r safleoedd hanesyddol mwyaf arwyddocaol ond lleiaf adnabyddus yng Nghymru, sef Bryngaer Caerau, yn ystod ail gyfnod Prosiect Treftadaeth Ailddarganfod Caerau a Threlái (CAER).

Amcan Prosiect Treftadaeth CAER yw helpu pobl Caerau a Threlái i ailgysylltu â gorffennol difyr y safle a’i wneud yn berthnasol i’r presennol. O’r dechrau’n deg, amcanion allweddol y prosiect oedd gosod y bobl leol wrth galon yr ymchwil archaeolegol, datblygu cyfleoedd addysgol a herio’r stigma a’r stereoteipiau di-sail sydd wedi’u cysylltu â’r rhan yma o Gaerdydd. Gobeithio y bydd hyn yn enyn sylw ehangach ac yn dod ag ymwelwyr i un o drysorau cudd Cymru.

Mae Prosiect Treftadaeth Ailddarganfod Caerau a Threlái (CAER) yn brosiect ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd, Gweithredu yng Nghaerau a Threlái (ACE), ysgolion lleol a thrigolion lleol.

Dros yr haf, mae Prosiect Treftadaeth CAER yn dod ag aelodau o’r gymuned a disgyblion o ysgolion lleol (Ysgol Uwchradd Glynderw, Fitzalan, Ysgol Uwchradd y Fair Ddihalog) at ei gilydd ar siwrnai o ddarganfyddiadau archaeolegol. Gan gydweithio â gweithwyr proffesiynol o Brifysgol Caerdydd, bydd yr aelodau’n gwneud gwaith cloddio ar raddfa eang ar y safle; yn cloddio er mwyn dysgu am eu treftadaeth gyfoethog ac yn dysgu sgiliau newydd a chreu hyder a chydlynedd cymunedol mewn ardal yng Nghaerdydd lle mae yna heriau o bwys.

Dywedodd y Dr Dave Wyatt, cyd-gyfarwyddwr y prosiect: ‘Mae’r prosiect wedi’i seilio ar Fryngaer Oes Haearn Caerau, ac mae’n ceisio cynnwys pobl a phlant ysgol lleol yn eu hanes cyffredin gan helpu i greu cyfleoedd newydd, drwy ystod o gyfleoedd addysgol a chreadigol gan gynnwys prosiectau ysgol, cyrsiau addysg oedolion a dysgu anffurfiol drwy archaeoleg gymunedol ac arbrofol, gwaith celf a dylunio a chreu llwybrau treftadaeth.’

Ychwanegodd: ‘Erbyn heddiw, maestrefi i’r brifddinas yw Trelái a Chaerau ac maen nhw’n wynebu problemau cymdeithasol ac economaidd sylweddol. Ewch nôl 2000 o flynyddoedd, cyn i’r Rhufeiniaid ddod yn 74OC, a Chaerau - a’i fryngaer drawiadol - oedd y ganolfan grym bwysicaf yn holl ardal Caerdydd. Mae hanes yn dweud mai dyma un o’r bryngaerau mwyaf a mwyaf trawiadol yng Nghymru, ond hyd yn hyn ychydig yn unig o gydnabyddiaeth sydd wedi’i rhoi i’w harwyddocâd yn lleol neu yn genedlaethol, ac rydyn ni’n gobeithio newid hynny unwaith ac am byth.’

Esboniodd Dave Horton, Cydlynydd Datblygu Cymunedol ACE (Gweithredu yng Nghaerau a Threlái) effaith bosibl y prosiect yn y gymuned: ‘Mae yna ddiddordeb byw mewn hanes lleol ymhlith llawer o aelodau o’r gymuned yn Nhrelái a Chaerau, ac felly mae gweithgareddau’r ychydig wythnosau nesaf wedi creu cyffro mawr. Mae’n dda iawn gan ACE fod yn rhan o Brosiect Treftadaeth CAER, gyda’r holl gyfleoedd sy’n cael eu cynnig ar gyfer dysgu a mwynhau. Ond yn fwy na hynny, i ni mae’r prosiect yn gyfle i ddathlu rhan gyffrous a bywiog o’r ddinas sydd wedi dioddef drwy stigma annheg dros y blynyddoedd.’

Mewn datblygiad cyffrous mewn archaeoleg arbrofol, ar ôl cloddio’u gorffennol yn yr Oes Haearn, bydd y bobl leol yn defnyddio’u gwybodaeth newydd i helpu i godi pentref Oes Haearn newydd sbon yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan, filltir a hanner i ffwrdd o safle Bryngaer Caerau.

BETH SY’N DIGWYDD – SUT GALL Y CYHOEDD GYMRYD RHAN …

CLODDIO’R OES HAEARN: 24 Mehefin-19 Gorffennaf [ar agor bob diwrnod o’r wythnos]
Bydd yna gloddiad cymunedol mawr ar Fryngaer Caerau a hwnnw’n cynnwys pobl a phlant ysgol lleol yn ogystal ag academyddion ac israddedigion o Brifysgol Caerdydd. Bydd y bobl leol yn cymryd rhan ym mhob agwedd ar y gwaith gan gynnwys cloddio, prosesu canfyddiadau, tynnu lluniau a chynllunio.

Bydd y cloddiad yn agored bob dydd o’r wythnos a bydd amryw o weithgareddau eraill i gynnwys y gymuned yn y safle ochr yn ochr â’r cloddio gan gynnwys gwneud potiau Oes Haearn, dylunio logos llwyth, cardiau post i’r Oes Haearn a mwy. Mae croeso i deuluoedd a phobl o bob oed!

GWLEDD YR OES HAEARN: Dydd Sadwrn 6 Gorffennaf [4pm]

Ar ddiwedd y prynhawn ar y diwrnod cloddio hwn byddwn yn cynnal dathliad ffest mochyn gan wahodd y trigolion lleol yn ogystal â gwleidyddion a gobeithio enwogion hefyd i ddod i’r safle i gymryd rhan mewn gwledd Oes Haearn i ddathlu eu treftadaeth.

DEFOD YR OES HAEARN: Dyddiad i’w gyhoeddi (ar ôl 6 Gorffennaf)

Ar ôl y ffest mochyn mawr, bydd esgyrn yr anifail yn mynd i Sain Ffagan lle bydd pobl leol ac archaeolegwyr yn ail-greu defod gynhanesyddol liwgar ac yn claddu’r esgyrn mewn pydew addunedol o dan seiliau’r pentref Oes Haearn NEWYDD y byddan nhw’n helpu i’w godi yn Sain Ffagan. Bydd hyn yn adlewyrchu’r ddefod oedd yn ôl yr archaeolegwyr yn cael ei chynnal cyn codi anheddiad newydd.

GŴYL TRELÁI: Dydd Sadwrn 13 Gorffennaf 2013

Bydd Prosiect CAER yn cymryd rhan ym mwrlwm Gŵyl Trelái, lle bydd miloedd yn bresennol, a lle bydd cyfle i bawb ddysgu am y canfyddiadau hyd yn hyn a chymryd rhan mewn celf gymunedol ar thema treftadaeth a dylunio’r llwybr treftadaeth newydd.

ADEILADU’R PENTREF OES HAEARN NEWYDD: Awst-Hydref 2013

Bydd trigolion a phlant ysgol o’r gymuned sydd wedi cymryd rhan yn y cloddio yn helpu i godi pentref Oes Haearn newydd yn Sain Ffagan ochr yn ochr â gweithwyr treftadaeth proffesiynol.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Laura Henderson, Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Caerdydd, Prifysgol Caerdydd

Ffôn: 029 2087 6169
E-bost: HendersonLJ1@caerdydd.ac.uk
Facebook/CardiffShare
Twitter: @cardiffshare

Dolenni cysylltiedig
Yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd