Amdanom Ni

Darlith gan Yr Athro Huw Beynon, Cyfarwyddwr yr Ysgol
Mae gan Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Caerdydd hyd at 160 o aelodau staff ac 1000 o fyfyriwr israddedig ac uwchraddedig. Yn ôl canlyniadau yr Ymarfer Asesu Ymchwil yn 2008 mae rhan fwyaf o’r ymchwil o safon ryngwladol gyda 55% yn “arwain y byd” neu yn “ rhagorol yn rhyngwladol”. Mae’r ystadegau yma yn gosod yr Ysgol o fewn o 5 sefydliad uchaf yn y DU.
Arweinir ein haddysg gan waith ymchwil a gaf hyn ei adlewyrchu yn ffocws rhyngddisgyblaethol yr Ysgol. Yma, caiff israddedigion ac uwchraddedigion eu haddysgu am y syniadau diweddaraf o fewn o gwyddorau cymdeithasol gan ysgolorion a’i adnabuwyd yn rhyngwladol, sydd eu hunan yn siapio dyfodol eu meysydd priodol.
Ymroddai'r Ysgol i ymchwil damcaniaethol gwybodus gyda pholisi clir ei ffocws. Golygai llawer o’n gwaith ymchwil cydweithio gydag prif brifysgolion ac asiantaethau rhyngwladol ar draws y byd. Mae hefyd yn golygu cysylltiad gyda llunwyr polisi ac ymarferwyr lleol. Mae’r cyfuniad creadigol yma o ddiddordeb ac ymarfer yn nôd gwarant yr Ysgol. Ers ei greadigaeth yn 2002, mae’r ysgol wedi denu dros £18miliwn o arian ymchwil ar gyfer prosiectau sydd yn amrywio ardraws cwestiynau o geneteg a chymdeithas; moeseg ac iechyd cyhoeddus; gwyddoniaeth ac arbenigedd; diwylliant a’r deiliad dynol; plentyndod ac agosatrwydd; newid addysgol a diwygiad polisi; y gymdeithas yn dysgu; cyflogadwyedd a’r farchnad llafur; yr economi byd-eang; gwladwriaeth; llafur a newid corfforedig; adfywiant lleol; trosedd rhyngwladol ac ymarferiad yr heddlu lleol.
Mae gan adeilad Morgannwg awyrgylch prysur a chyfeillgar - yn llawn myfyrwyr; darlithiau; seminarau; cynhadleddau a gweithdai. Cynigir amgylchedd ardderchog i fyfyrwyr a staff. Mae hefyd yn lle pleserus i ymweld.
