Y Myfyrwyr Cyfredol
Mae’r adran hon yn cynnwys cysylltiadau a gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer myfyrwyr cyfredol yr Ysgol Astudiaethau Nyrsio a Bydwreigiaeth.
Y Gwasanaeth Gyrfaoedd

Mae Gwasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i roi cymorth heb ei ail i fyfyrwyr, graddedigion ac ôl-raddedigion. Yn ogystal â’r gwasanaeth canolog, mae un ar gael hefyd ar gampws Parc Mynydd Bychan.
I gael cyngor, cyfarwyddyd a gwybodaeth am yrfaoedd i fyfyrwyr a graddedigion, siaradwch ag Ymgynghorydd Gyrfaoedd.
Edrych ar dudalen Gwasanaeth Gyrfaoedd Campws Mynydd Bychan
Hunan-asesu Sgiliau Astudio ac Ysgrifennu Academaidd

Mae’r prosiect sydd wedi’i gwblhau yn ddiweddar gan David Skarratts (Cydlynydd Cymorth Dysgwyr SONMS) ac a ariannwyd gan Ddysgu ac Addysgu yn diwtorial rhyngweithiol i’ch helpu i adnabod a gwella’ch perfformiad yn y sgiliau academaidd holl-bwysig y bydd arnoch eu hangen i lwyddo yn y Brifysgol.
Ewch i’r Prosiect (gall fod angen ichi ganiatáu ffenestri 'powld’).
Tudalennau eraill yn yr adran hon
Cysylltiadau â chyngor am sgiliau astudio, canllawiau ar ysgrifennu academaidd, gwefannau cymorth i fyfyrwyr ac adnoddau defnyddiol eraill ar-lein.
Cyfarwyddiadau ar sut i gyrchu cyfleusterau Rhwydwaith Prifysgol Caerdydd pan na fyddwch chi ar y safle.
