Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

English

Rhaglenni Gradd

Student nurses with A&E equipment.

Mae Ysgol Astudiaethau Nyrsio a Bydwreigiaeth Caerdydd wedi ymrwymo i ragoriaeth ac mae’n enwog ar sail rhagoriaeth, mewn addysgu ac ymchwilio. Mae’r rhaglenni wedi’u cynllunio’n unswydd i ddarparu amrediad o wybodaeth a sgiliau y mae eu hangen er mwyn ymarfer mewn amrywiaeth o sefydliadau gofal. Byddwch yn mwynhau addysgu o ansawdd dda, adnoddau o’r radd flaenaf a systemau cymorth myfyrwyr sydd wedi ennill eu plwyf. Mae gan yr Ysgol gysylltiad di-dor â Chyfarwyddiaeth Nyrsio Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a’r Fro ac Ymddiriedolaeth Gofal Iechyd Gwent sy’n darparu’r rhan fwyaf o’r profiad clinigol a gaiff y myfyrwyr yn ystod eu hastudiaethau.

Rydyn ni’n anelu at roi cyrsiau o ansawdd dda ac amgylchedd cyfeillgar a symbylol er mwyn ichi wireddu’ch potensial a mwynhau astudio gyda ni.

Pam Dewis Caerdydd

Israddedigion

Students learning clinical skills on a dummy.

Gwybodaeth am y cwrs ar gyfer gradd Baglor Nyrsio (Anrh) - Oedolion, Plant, Iechyd Meddwl a chynllun israddedig tair blynedd sy’n arwain at radd Baglor Bydwreigiaeth (Anrh). Gwybodaeth hefyd am raglenni i nyrsys a bydwragedd cymwysedig.

Rhaglenni Gradd i Israddedigion

Canllaw i Ymgeiswyr - Rhaglenni Israddedig Tair Blynedd

Ôl-raddedigion

Nurse assessing and treating a patient.

Gwybodaeth am gyrsiau ôl-raddedig, gan gynnwys yr MSc mewn Ymarfer Uwch sy’n cynnig amrediad o lwybrau arbenigol: Diploma Ôl-raddedig/MSc mewn Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol a Doethuriaeth mewn Nyrsio.