Newyddion a Digwyddiadau
Newyddion
23/02/2008
Mae cynlluniau wedi’u cyhoeddi ynghylch canolfan newydd ar gyfer addysg ganser sydd ar fin sicrhau rhagor o ofal arbenigol i gleifion canser yn y De.
18/01/2008
Mae’r Athro Emeritws Ann Tucker, cyn Ddeon Ysgol Astudiaethau Nyrsio a Bydwreigiaeth Caerdydd, wedi’i phenodi’n swyddog yn Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE) oherwydd ei gwasanaethau i ofal iechyd.
08/01/2008
Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU a’r drydedd yn Ewrop i gael ei derbyn i gymdeithas anrhydeddus sy’n cydnabod rhagoriaeth mewn nyrsio.
Digwyddiadau
Seminarau ac anerchiadau ymchwil yn yr Ysgol yn y flwyddyn academaidd gyfredol, gan gynnwys sesiynau wedi’u trefnu gan Grŵp Diddordeb Ymchwil Meddygaeth a’r Gymdeithas a seminarau ar gyfer ymgeiswyr PhD ac ymchwilwyr newydd.
Mae Dyddiau Gwybodaeth ar gael i’r rhai sydd â diddordeb mewn sicrhau rhagor o fanylion am yrfa mewn Nyrsio a Bydwreigiaeth. Mae’r Diwrnod Gwybodaeth wedi’i gynllunio ar gyfer y rhai sy’n gwneud cais neu sy’n meddwl gwneud cais ar gyfer gradd gyn-gofrestru Baglor mewn Nyrsio (Anrh) – cangen Oedolion, Plant neu Iechyd Meddwl neu Faglor mewn Bydwreigiaeth (Anrh).
Digwyddiadau Prifysgol Caerdydd
