Y newyddion diweddaraf
08/07/2010
PHEW 2
Mae Wythnos Iechyd ac Amgylchedd Cadarnhaol Dau (PHEW 2) eisoes yn mynd rhagddi gydag amrywiaeth a digwyddiadau a gweithgareddau i staff fanteisio arnyn nhw.
Mae’r rhaglen sy’n rhedeg tan ddydd Gwener 9 Gorffennaf yn cynnwys teithiau cerdded, teithiau tywys, nofio am ddim a MOTs ffitrwydd. Ceir y rhaglen ddigwyddiadau lawn ar wefan Amgylchedd Gweithio Cadarnhaol sef www.caerdydd.ac.uk/pwe
Mae hi’n dal yn bosibl i aelodau o staff sy’n methu mynychu digwyddiadau ymwneud â PHEW2 drwy gyflwyno rysáit i lyfr Bwyta’n Iach neu drwy gymryd rhan mewn cystadlaethau PHEW2.

Hotshots
Mae Chwaraeon ac Ymarfer Prifysgol Caerdydd yn lansio gwersyll gweithgareddau newydd ar gyfer haf 2010 a fydd yn cadw plant 8-14 oed yn egnïol ac yn cynnig diddanwch iddyn nhw yn ystod gwyliau’r ysgol.
Bydd gwersylloedd gweithgareddau Hotshots sy’n rhedeg o 19 Gorffennaf i 27 Awst yn cyfuno chwaraeon, chwarae, celf a chrefft mewn rhaglen lawn hwyl. Bydd y gweithgareddau’n cynnwys badminton, pêl-rwyd, pêl foli a mabolgampau ar ddiwedd yr wythnos, yn ogystal â helfeydd trysor a sesiynau dylunio crysau T.
Bydd y gwersyll gwyliau’n digwydd yng Nghanolfan Chwaraeon y Brifysgol rhwng 8.00 y bore a 6 yr hwyr, o ddydd Llun i ddydd Gwener. I gael rhagor o wybodaeth neu i gadw lle i’ch plentyn ewch i: http://www.caerdydd.ac.uk/sport/general/news/archive/event-cardiff-university-hot-shots.html
Her Chichester
Mae Paul Reynish, Uwch Gynorthwyydd Llyfrgell yn y Llyfrgell Ymarfer Cyfreithiol yn cymryd rhan yn Her 25km Chichester i godi arian i Apêl Arch Noa. I gefnogi Paul, ewch i’w dudalen ‘justgiving’ sef http://www.justgiving.com/Paul-Reynish

