Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Neuadd Aberdâr

12 Hydref 2010

Aberdare Hall today

Neuadd Aberdâr heddiw

Mae Neuadd Aberdâr, neuadd breswyl y Brifysgol i ferched yn unig, yn dathlu ei phen-blwydd yn 125 oed y mis hwn. Mae Blas yn dod i wybod rhagor am ei hanes, y gweithgareddau dathlu sydd ar y gweill ac yn cael sgwrs ag un a fu’n aros yno.

Gwrandewch ar bodlediad gyda Francesca Tuckerman, myfyrwraig ôl-raddedig a fu’n byw yn Neuadd Aberdâr am dair blynedd.

Your computer cannot play the audio in your browser. To fix this, you need to make sure both Javascript and Adobe Flash are available.

Get the Adobe Flash plug-in by clicking here

To find out how to enable JavaScript, check the Help option for your browser.


Cardiff University campus users

If you are on the Cardiff University campus and have problems with plug-ins or browsers, you can contact the INSRV Helpdesk on extension 74487 or visit the INSRV webpages


Cafodd Neuadd Aberdâr ei hagor ym 1885, a dyma’r neuadd brifysgol gyntaf i fenywod yng Nghymru a’r ail yn unig ym Mhrydain. I ddechrau roedd y Neuadd ar Ffordd Richmond ond daeth galw mawr am ystafelloedd newydd. Erbyn 1895 roedd y Neuadd wedi symud i’r cartref lle mae heddiw - adeilad brics a ‘terra cota’ mawreddog ar Ffordd Corbett.

Y pryd hwnnw, roedd rheolau caeth i fywyd cymdeithasol y menywod oedd yn byw yn Neuadd Aberdâr. Am gyfnod, doedd dim hawl gan breswylwyr y Neuadd fynd am bicnic neu weld cynyrchiadau theatraidd ond roedd tennis yn un maes lle roedd hawl i’r ddau ryw gwrdd, ond gyda gwarchodwragedd yn gwylio, wrth gwrs.

The mixed picnic at Caerphilly

Y picnic cymysg yng Nghaerffili

Yn ystod haf 1887 anfonodd y myfyrwyr ddeiseb i’r Senedd roi hawl i gynnal picnics i fyfyrwyr gwrywaidd a benywaidd. Ar y dechrau cafwyd caniatâd Pwyllgor Neuadd Aberdâr a llwyddodd pawb i ymddwyn yn dda yn y ‘picnic cymysg’ a gynhaliwyd yng Nghaerffili yn dilyn hyn.

Ym 1892, ysgrifennodd Pennaeth Neuadd Aberdâr oedd ar fin ymddeol i rybuddio’i holynydd fod y preswylwyr yn dueddol o siarad ‘yn rhy rydd am fyfyrwyr gwrywaidd wrth ddychwelyd o’r Coleg i gael bwyd.’ Aeth yn ei blaen: ‘Nid anogais agosatrwydd rhwng fy myfyrwyr i a’r myfyrwyr gwrywaidd ac nid oeddwn yn cymeradwyo iddynt gael eu gwahodd i gwrdd â’i gilydd yn gymdeithasol. Fodd bynnag, ni chredaf fod Mrs. [Viriamu] Jones a’r Prifathro’n hollol gytûn â mi yn y mater hwn.”

Heddiw, mae Neuadd Aberdâr yn gartref i 131 o fenywod ac mae nifer o’i nodweddion cyfnod yn dal yno. Mae’n lleoliad poblogaidd i gynadleddau ac mae gerddi’n amgylchynu’r lle. Mae beiros a nodau llyfr arbennig ar werth yn nerbynfa Neuadd Aberdâr i ddynodi’r pen-blwydd.

Architects sketch of Aberdare Hall

Braslun penseiri o Neuadd Aberdâr

Dathliadau 125 Neuadd Aberdâr: Beth sy’n digwydd?

Dydd Mercher 3 Tachwedd 2010: Te dathlu i bwyllgor Ffrindiau Neuadd Aberdâr ac aelodau o staff y Neuadd

Dydd Sul 12 Rhagfyr: Gwasanaeth Carolau Neuadd Aberdâr

Dyddiad i’w gadarnhau: Cinio Nadolig traddodiadol i fyfyrwyr

Dydd Iau 3 Chwefror 2011: Noson gyda’r siaradwr gwadd Yr Hybarch Peggy Jackson

Dyddiad i’w gadarnhau: Cyngerdd Gwanwyn Neuadd Aberdâr

Dydd Gwener 6 Mai 2011: Cyfarfod Cyffredinol Ffrindiau Neuadd Aberdâr a swper

Keswick House, Richmond Road - the first building used for Aberdare Hall

Tŷ Keswick, Ffordd Richmond – yr adeilad cyntaf a ddefnyddiwyd ar gyfer Neuadd Aberdâr

Neuadd Aberdâr: Wyddech chi…

  • Cafodd Neuadd Aberdâr ei chodi’n wreiddiol ym 1893, ond fe’i sefydlwyd ym 1885 gan Foneddiges Aberdâr, gwraig y Llywydd, i hyrwyddo addysg menywod yng Nghymru.
  • Neuadd Aberdâr yw unig neuadd breswyl y Brifysgol i ferched yn unig.
  • Ym 1918, cafodd rheol newydd ei chyflwyno yn Neuadd Aberdâr; roedd gofyn i’r preswylwyr benywaidd ifanc ‘beidio â gwneud ystumiau ar foneddigion y Lluoedd Arfog sy’n mynd heibio i’r adeilad.’
  • Ychwanegwyd adain newydd at Neuadd Aberdâr ym 1935.
  • Mae tair ystafell ddethol yn Neuadd Aberdâr: Ystafell Isabel Bruce ~ a enwyd ar ôl Pennaeth cyntaf Neuadd Aberdâr (1885-1887); Ystafell Joan Buckingham ~ a enwyd ar ôl Warden Neuadd Aberdâr (1980-1997); ac Ystafell Kathleen Ede ~ a enwyd ar ôl aelod o Lys Cyngor Coleg Prifysgol Caerdydd (1963-1984)