Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Gwersylloedd gweithgareddau i blant

13/06/2011

Hot Shots

Mae gwersyll amlweithgaredd, sy’n cynnig cyfle i blant ysgol roi cynnig ar gelfyddydau, crefftau a chwaraeon yn ystod y gwyliau, yn cael ei gynnal gan y Brifysgol.

Mae Hot Shots yn darparu ar gyfer plant rhwng 8 a 14 oed yn ystod y gwyliau ysgol a bydd yn agor ei ddrysau ar ddydd Llun, 25 Gorffennaf, tan ddydd Gwener 2 Medi 2011 dros wyliau’r haf.

Lleoliad y gwersyll fydd Pentref Hyfforddi Chwaraeon y Brifysgol sydd ar Gampws Tal-y-bont (gerllaw Tesco Extra ar Rodfa’r Gorllewin), ac mae’n cynnig amgylchedd diogel i blant allu cymryd rhan yn yr amrywiaeth eang o weithgareddau sy’n cael eu cynnig iddynt.

“Mae Prifysgol Caerdydd yn awyddus i gynnig gwersyll fforddiadwy sy’n cynnwys pob plentyn,” meddai rheolwr y Ganolfan Chwaraeon, Gwyneth Sheehan. “Yn aml, mae gwersylloedd yn anelu’n benodol at naill ai chwaraeon neu’r celfyddydau, ond roeddem yn awyddus i greu amgylchedd sy’n cynnig cyfle i blant gael profiad o bob math o adloniant yn ystod gwyliau’r ysgol, gan ddefnyddio cyfleusterau’r Brifysgol. Bu’r flwyddyn gyntaf yn 2010 yn llwyddiant mawr a’n gobaith yw gweld hyn yn parhau yn 2011 a thu hwnt.” 
Bydd Gwersylloedd Gweithgareddau Hot Shots yn cael eu cynnal o ddydd Llun i ddydd Gwener (heblaw am wyliau banc) a gellir gadael plant yma o 8.00am tan 6.00pm. Bydd staff cymwys a phrofiadol yn cynorthwyo plant i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n briodol i’w hoedran, gan dalu sylw penodol i ddatblygiad personol, rhyngweithio â phlant eraill, a chael hwyl a mwynhad.
Bydd y gweithgareddau chwaraeon yn cynnwys: badminton, pêl-fasged, criced, pêl-droed, pêl-rwyd, tennis, tennis bwrdd, rygbi cyffwrdd, pêl foli, osgoi’r bêl (‘dodgeball’), athletau a diwrnod chwaraeon ar ddiwedd yr wythnos. Bydd gweithgareddau eraill yn cynnwys: cynllunio crysau-t, gwneud collage, helfeydd trysor a llawer iawn mwy.

I gael mwy o wybodaeth neu i drefnu lle mewn gwersyll Hot Shots cysylltwch â Gwyneth Sheehan ar 02920 874675.

 

Dolenni perthnasol