Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Penodi Is-Ganghellor newydd Prifysgol Caerdydd

09/03/2011

Yr Athro Syr Keith Peters

Yr Athro Syr Keith Peters

Penodi Is-Ganghellor newydd Prifysgol Caerdydd.
Neges gan yr Athro Syr Keith Peters, Cadeirydd Cyngor Prifysgol Caerdydd ynglŷn â phenodi Is-Ganghellor newydd y Brifysgol.

Yr wythnos hon mae Cyngor Prifysgol Caerdydd yn dechrau’r broses o wahodd ceisiadau am swydd yr Is-Ganghellor.

Bydd y swydd yn dod yn wag pan fydd Dr David Grant yn gadael y gwaith y bu’n ei wneud ers 2001. Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau ar ei ddyletswyddau ym mis Awst 2012.

Rwy’n ddiolchgar i’m cydweithwyr am gyfrannu i’r arolwg ar y rhinweddau sydd eu hangen ar arweinydd nesaf ein Prifysgol. Mae’r cyfraniadau hyn wedi bod o gymorth wrth lunio’r fanyleb person ar gyfer y rôl bwysig hon.

Hysbysebir y swydd yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Bydd yr hysbyseb gyntaf yn ymddangos yn The Times Higher (10 Mawrth 2011). Dewisir yr Is-Ganghellor nesaf gan Bwyllgor ar y Cyd o’r Cyngor a’r Senedd, a fydd yn gyfrifol am wneud argymhelliad i Gyngor y Brifysgol. 

Byddaf yn Cadeirio’r Panel ar y Cyd ac mae’r Cyngor wedi cadarnhau’r aelodau canlynol o’r Cyngor gan adlewyrchu’r gofynion sydd yn yr Ordinhad:

  • Mr R N Roberts, Dirprwy Gadeirydd y Cyngor
  • Mrs Philippa Herbert, Trysorydd y Brifysgol
  • Yr Athro Roy Evans, Aelod Lleyg o’r Cyngor.
  • Yr Athro David Eastwood, Prifysgol Birmingham, yn benodiad allanol

Cymeradwyodd y Senedd yr aelodau canlynol i’w chynrychiolwyr:

  • Yr Athro Elizabeth Treasure, Dirprwy Is-Ganghellor
  • A Dirpwry Is-Ganghellor (i’w benodi gan y Dirprwy Is-Gangellorion)
  • Pennaeth Ysgol (i’w benodi gan y Penaethiaid Ysgol)
  • Aelod o’r Senedd (nad yw’n PVC neu’n Bennaeth Ysgol) – mae galwad am enwebiadau ar y gweill.

Yn ogystal, cymeradwyodd y Cyngor fy nymuniad i gyfethol ail aelod allanol, yr Athro Syr Leszek Borysiewicz, Is-Ganghellor Prifysgol Caergrawnt, i gynghori’r Panel.

Yr Athro Keith Peters
Cadeirydd Cyngor y Coleg

Amserlen

  • Dyddiad cau: Dydd Llun, 4 Ebrill 2011
  • Cyfweliadau ac ymweliadau: Ebrill, Mai a Mehefin 2011
  • Cyflwyno argymhelliad y Pwyllgor ar y Cyd i’r Cyngor: 11 Gorffennaf 2011