Materion Asesu
21/09/2010

Lansiwyd prosiect newydd pwysig er mwyn ceisio gwella profiad dysgu myfyrwyr a chynorthwyo’r Brifysgol i ddangos hyder yn safonau ei dyfarniadau.
Mae ‘Materion Asesu’ yn fenter ledled y Brifysgol sy’n canolbwyntio ar ddau faes asesu allweddol – gwella cysondeb mewn prosesau ac arferion asesu; a gwella’r adborth i fyfyrwyr am asesu.
Gyda’r Athro Jonathan Osmond, y Dirprwy Is-Ganghellor dros Addysg a Myfyrwyr ar flaen y gad, bydd Materion Asesu yn tynnu ar arbenigedd staff ledled y Brifysgol i lunio’r prosiect. Yr Athro Stephen Denyer o Ysgol Fferylliaeth Cymru fydd yn arwain ar adborth. Claire Morgan, Ysgol Fusnes Caerdydd sy’n arwain y maes sy’n ymwneud â chysondeb, ac Andy Lloyd yn y Gofrestrfa sy’n rheoli’r prosiect.

Meddai Andy Lloyd: “Mae Materion Asesu yn brosiect pwysig o gofio’r pwyslais y mae myfyrwyr yn ei roi ar asesu a’r amser a’r egni y mae staff academaidd yn eu rhoi yn y maes hwn. Dros y ddwy flynedd nesaf bydd y prosiect, ymysg pethau eraill, yn gwneud i asesu fod yn decach i’n myfyrwyr drwy leihau nifer y ffyrdd y caiff graddau eu cyfrifo, ac yn gweithio gyda staff a myfyrwyr ledled y Brifysgol i wella’r adborth am waith sydd wedi’i asesu.”
Bydd ymgynghori helaeth â staff academaidd yn digwydd yn ystod y prosiect i sicrhau bod perchnogaeth academaidd briodol ar ei ganlyniadau, drwy fforymau agored, a thrwy gyfarfodydd â staff perthnasol mewn ysgolion academaidd unigol.
Ceir rhagor o wybodaeth am y prosiect gan Andy Lloyd - lloyda@caerdydd.ac.uk

