Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Gwobr Athena SWAN

12 Hydref 2010

Yr Athro Tim Wess ac Anna Courage o’r Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg gyda’u Gwobr Arian; Yr Athro Sheila Hunt ac Elaine Beer o’r Ysgol Astudiaethau Nyrsio a Bydwreigiaeth gyda’u Gwobr Efydd

Mae dwy ysgol wedi cael eu cydnabod am eu hymrwymiad i hyrwyddo gyrfaoedd menywod mewn gwyddoniaeth drwy ennill gwobr genedlaethol.

Mae’r Ysgol Astudiaethau Nyrsio a Bydwreigiaeth a’r Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg wedi derbyn gwobrau efydd ac arian siarter SWAN Athena yn y drefn honno am eu harferion da wrth recriwtio, cadw a dyrchafu menywod ym maes Gwyddoniaeth, Peirianneg a Thechnoleg.

Meddai’r Athro Terry Threadgold, y Dirprwy Is-Ganghellor, Staff ac Amrywiaeth: “Rydym wrth ein bodd o glywed am lwyddiant y ddwy Ysgol. Mae cael cydnabyddiaeth Athena Swan ar unrhyw lefel yn golygu llawer o waith caled, ond mae’n waith adeiladol a hunanfyfyriol sy’n gwneud i ni i gyd edrych yn fanwl ar ddiwylliannau ein Hysgol a’n Prifysgol a meddwl am y ffurfiau anymwybodol ar ragfarn ar sail rhyw sydd wedi’u gwreiddio ynddyn nhw. Mae’n bleser mawr gen i nodi hefyd fod Athena bellach yn fater ‘creiddiol’ i’r Brifysgol gan fod y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil yn ei gynnwys i fesur yr amgylchedd ymchwil.”

Cynllun yw Siarter Athena SWAN sy’n cydnabod rhagoriaeth o ran cyflogaeth Gwyddoniaeth, Peirianneg a Thechnoleg ym maes addysg uwch ac yn cymeradwyo arferion da ar gyfer menywod sy’n gweithio yn y meysydd hynny.

Canmolodd beirniaid y wobr weithgareddau a mentrau’r Ysgol Astudiaethau Nyrsio a Bydwreigiaeth sy’n ymwneud â hyrwyddo, gan nodi’n benodol y mentora sydd ar gael drwy Gynllun Mentora Menywod mewn Prifysgolion a Fforwm Athrawon sy’n Fenywod. Yn ogystal roedd y panel yn falch o weld bod dwy Ddirprwy Bennaeth Ysgol benywaidd wedi’u penodi.

Cafodd yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg ei chydnabod am ei system arfarnu a mentora deuol, y polisi drws agored, a’r cyfarfodydd un ac un â staff sy’n dychwelyd ar ôl absenoldeb mamolaeth i nodi unrhyw gymorth sydd ei angen. Yn ogystal roedd y panel yn falch o weld bod yr ysgol yn cydnabod mai o 10.30a.m. i 3.30p.m roedd y diwrnod gwaith creiddiol a bod pob ymdrech yn cael ei wneud fel y byddai cyfarfodydd a digwyddiadau cymdeithasol yn dechrau ac yn gorffen yn ystod yr oriau hyn. Cafodd yr Athro Tim Wess, Pennaeth yr Ysgol, ei ganmol hefyd am ei ymwneud â phwyllgorau cydraddoldeb ac amrywiaeth y Brifysgol a’r Ysgol.

Yn y ddau achos, dywedodd y panel eu bod yn falch o weld ceisiadau gan yr Ysgolion, fel adran academaidd heb fod yn un draddodiadol yn achos yr Ysgol Astudiaethau Nyrsio a Bydwreigiaeth; a’r cais cyntaf gan ddisgyblaeth o’i math wrth gyfeirio at yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg.

Meddai’r Athro Tim Wess, Pennaeth yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg ac sydd newydd gael ei benodi’n Ddirprwy Is-ganghellor, Ystadau: “Ni yw’r Ysgol gyntaf yng Nghymru i dderbyn y Wobr Arian. Mae cydraddoldeb yn un o gonglfeini ein gwerthoedd ac rydym wrth ein bodd fod y gwaith caled, y cynllunio a chefnogaeth y staff i gael popeth yn ei le wedi cael eu cydnabod.”
Meddai’r Athro Sheila Hunt, Deon yr Ysgol Astudiaethau Nyrsio a Bydwreigiaeth: “Rydym wrth ein boddau o gael yr anrhydedd hon ac rydym yn edrych ymlaen at gyflwyno tystiolaeth ein bod yn parhau i wneud cynnydd tuag at y wobr arian.”

Yn 2009, Prifysgol Caerdydd oedd un o 19 prifysgol yn unig ledled Prydain i gael gwobr efydd uchel ei pharch o dan y Siarter am ei hymrwymiad i fenywod mewn gwyddoniaeth.

Caiff Athena SWAN ei ariannu ar y cyd gan Ganolfan Ymchwil y DU er Menywod mewn Gwyddoniaeth, Peirianneg a Thechnoleg (UKRC) a’r Uned Her Cydraddoldeb (ECU).