Denu goreuon y byd
28 Mai 2012
Mae pecyn hael o ysgoloriaethau, i gefnogi ein myfyrwyr rhyngwladol mwyaf talentog yn ystod eu cyfnod yng Nghaerdydd, newydd gael ei lansio.
Mae galw mawr am y Brifysgol ymysg myfyrwyr ledled y byd, a hynny am astudiaethau sy'n cael eu harwain gan ymchwil o ansawdd uchel ar lefel israddedig ac ôl-raddedig. Mae ein cymuned o 3,000 o fyfyrwyr rhyngwladol yn cwmpasu pob un o'r pum cyfandir ar hyn o bryd ac mae nifer o gyn-fyfyrwyr wedi dychwelyd i'w gwledydd cartref i gael llwyddiant mewn proffesiynau fel y gyfraith, meddygaeth a newyddiaduraeth.
Er mwyn adlewyrchu ansawdd uchel ein myfyrwyr tramor ac i ddenu hyd yn oed mwy o'r myfyrwyr disgleiriaf mewn marchnad fyd-eang hynod gystadleuol, mae'r Brifysgol wedi creu'r Gronfa Ysgoloriaethau Rhyngwladol. Mae amrywiaeth eang o becynnau cefnogi ar gael i fyfyrwyr gyda lleoedd i ddechrau yng Nghaerdydd y mis Medi hwn, o lefel sylfaen hyd at PhD.
Mae uchafbwyntiau'r Gronfa newydd yn cynnwys:
- Ysgoloriaeth Ryngwladol Anrhydeddus yr Is-ganghellor - Ffioedd dysgu a chymorth cynhaliaeth wedi'i dalu i ddau fyfyriwr israddedig neilltuol gydol eu cyfnod yng Nghaerdydd.
- Ysgoloriaethau Israddedig Penodol i Wlad - gwerth £5,000 o gymorth i chwech o'r israddedigion gorau yn y flwyddyn gyntaf o Bangladesh, India, Kenya, Nigeria, UDA neu Vietnam
- Ysgoloriaethau Rhyngwladol ôl-raddedig (Wedi'u Haddysgu) - Ffioedd dysgu a chynhaliaeth i bedwar o'r ôl-raddedigion mwyaf talentog ar gyrsiau wedi'u haddysgu
- Ysgoloriaethau Rhyngwladol (Ymchwil) Ôl-raddedig - Tair ysgoloriaeth hynod ddeniadol sy'n cynnig y gwahaniaeth rhwng ffioedd cartref a thramor am hyd at bedair blynedd o astudio.
Hefyd mae'r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o ysgoloriaethau gyda chyrff partner. Yn ychwanegol at y rhain, mae pobYsgol academaidd yn cynnig eu hysgoloriaethau rhyngwladol eu hunain.
Meddai Elizabeth Treasure y Dirprwy Is-ganghellor: "Mae ein myfyrwyr rhyngwladol yn rhan hanfodol o fywyd academaidd, cymdeithasol a diwylliannol y Brifysgol. Nod y Gronfa Ysgoloriaethau Rhyngwladol newydd yw cadw Caerdydd yn un o gyrchfannau deniadol y byd i ysgolheigion hynod ddawnus. Byddwn i'n annog pob cydweithiwr sy'n croesawu myfyrwyr tramor mis Medi nesaf i roi gwybod iddyn nhw am y cyfleoedd hael sydd ar gael."
15 Gorffennaf yw'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am ysgoloriaethau'r Brifysgol. Ceir rhagor o wybodaeth am sut gall myfyrwyr wneud cais yn www.cardiff.ac.uk/internationalscholarships neu drwy e-bostio internationalscholarships@cardiff.ac.uk

