Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Dod yn un o Ddiawliaid Elit Caerdydd

07 Hydref 2011

Luke Piggott

Luke yn chwarae (cydnabyddiaeth: Tim Bowers)

Bydd un myfyriwr PhD o Gaerdydd, Luke Piggott, yn rhannu ei amser y tymor hwn rhwng y labordy a’r llawr sglefrio hoci, ar ôl iddo arwyddo cytundeb newydd gyda thîm Cynghrair Elît Diawliaid Caerdydd.

Mae Luke wedi bod yn chwarae i dîm y Gynghrair Genedlaethol am y pedair blynedd diwethaf, ac ef oedd sgoriwr uchaf y tymor diwethaf. Mae newydd arwyddo cytundeb dwy ffordd. Mae hyn yn caniatáu iddo chwarae’n broffesiynol i dîm y Gynghrair Elît, yn ogystal â mynd ar yr iâ fel capten cynorthwyol carfan y Gynghrair Genedlaethol.

Meddai Luke: "Mae arwyddo gyda thîm Cynghrair Elît Diawliaid Caerdydd wedi bod yn freuddwyd gennyf i erioed. Rwyf wedi bod eisiau chwarae ar y lefel uchaf yn y gêm broffesiynol yn y wlad hon ac mae gwneud hynny i glwb mor wych â Diawliaid Caerdydd yn anrhydedd. Rwy’n chwarae ochr yn ochr â’r chwaraewyr gorau yn y wlad ac yn mwynhau pob munud."

Pan na fydd yn rhoi jersi’r Diawliaid amdano, y tebyg yw y dewch o hyd i Luke mewn labordy yn yr Ysgol Biowyddorau, lle mae’n gweithio fel myfyriwr PhD dan oruchwyliaeth Dr Richard Clarkson. Ariennir ei le fel myfyriwr gan yr elusen ganser Tenovus drwy raglen gefnogi i ymchwilwyr canser yn gynnar yn eu gyrfa. Y mis hwn denodd ei ymchwil hefyd sylw’r cyfryngau rhyngwladol ar ôl dod o hyd i wendid ym môngelloedd canser y fron a allai helpu i atal y clefyd rhag lledaenu. Serch hynny, nid yw cyfuno ymchwil academaidd â gyrfa broffesiynol mewn hoci iâ ddim yn dasg hawdd, gan fod Luke yn hyfforddi bedair gwaith yr wythnos ac yn chwarae tua 70 o gemau bob tymor. Yn ffodus, mae ymroddiad Luke, ynghyd â chefnogaeth a dealltwriaeth yr Ysgol Biowyddorau, yn golygu nad yw’r naill na’r llall yn dioddef.

Dywedodd Luke: "Rwy’n lwcus dros ben fod Richard, fy ngoruchwyliwr, yn hyblyg iawn gyda mi wrth imi gyfuno fy ngyrfa chwaraeon gyda fy ngwaith ymchwil. Mae wedi bod yn agored gyda mi drwy’r amser ac felly cyn belled â bod safon fy ngwaith academaidd yn aros yn uchel, nid oes problem. Byddaf hyd yn oed yn defnyddio teithiau bysiau i gemau oddi cartref yn gyfle i gael gwybod y diweddaraf am y maes drwy ddarllen papurau. Hyd yn hyn, nid yw’r naill wedi amharu ar y llall ac yn ddiweddar rwyf newydd gyhoeddi fy mhapur cyntaf ar fy ngwaith ymchwil.

"Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gael mynd yn ôl i weithio gyda’r tîm ar gyfer y tymor sy’n dod ac rwy’n hapus iawn y gallaf ddal ati i chwarae hoci yng Nghaerdydd ar gytundeb dwy ffordd. Mae’r drefn yma’n rhagorol ac mae hynny’n amlwg oddi wrth y nifer o chwaraewyr wedi’u hyfforddi yng Nghaerdydd sydd yn y Gynghrair Elît ac sy’n cynrychioli Prydain Fawr."