Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Dathlu llwyddiant myfyrwyr rhyngwladol

16/05/2011

Yr Is-Ganghellor Dr David Grant gyda’r myfyriwr Bashir Ambi-Mohammed

Yr Is-Ganghellor Dr David Grant gyda’r myfyriwr Bashir Ambi-Mohammed

Dathlwyd doniau myfyrwyr rhyngwladol Caerdydd mewn digwyddiad arbennig yn Neuadd Aberdâr.

Daeth asiantaethau nawdd a staff o bob cwr o’r byd ynghyd i gydnabod cyflawniadau’r myfyrwyr wrth iddynt ennill dyfarniadau blaenllaw ac ysgoloriaethau rhyngwladol, fel Ysgoloriaeth y Gymanwlad, trwy gystadleuaeth.

Roedd ysgolheigion eraill wedi wynebu cystadleuaeth o blith eu cydweithwyr, gan ennill grantiau gan eu cyflogwyr i’w galluogi nhw i astudio yn y Brifysgol.

Yn gyfan gwbl, daeth dros 70 o bobl i’r digwyddiad a chawsant eu croesawu gan yr Is-Ganghellor Dr David Grant. Siaradodd Sandra Elliott, Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Chysylltiadau Rhyngwladol y Brifysgol, am ryngwladoli yng Nghaerdydd a bu cynrychiolydd o’r noddwr blaenllaw Saudi Aramco UK, Ms Aggie Cooper, yn esbonio pam roeddent yn rhoi nawdd i gymaint o’u gweithwyr astudio yng Nghaerdydd.

Bu’r digwyddiad hwn yn dathlu llwyddiannau myfyrwyr rhyngwladol

Bu’r digwyddiad hwn yn dathlu llwyddiannau myfyrwyr rhyngwladol

Daeth y myfyriwr MSc mewn Cludiant Rhyngwladol, Bashir Ambi-Mohammed, â’r digwyddiad i ben trwy fynegi ei ddiolch i’w noddwyr ei hun, Cyngor Llongiadwyr Nigeria, am eu cymorth ariannol a phroffesiynol.

Meddai Rhian Curtis, Uwch Swyddog Rhyngwladol a threfnydd y digwyddiad: “Mewn cyfnod o ansicrwydd economaidd, pan mae llawer o fyfyrwyr rhyngwladol yn cael trafferth sicrhau’r arian i gefnogi eu hastudiaethau, roedd gallu estyn ein diolch i gwmnïau ac asiantaethau nawdd sy’n cydnabod pwysigrwydd buddsoddi mewn addysg uwch yn wych.

“Edrychwn ymlaen at barhau i feithrin cysylltiadau agos ag asiantaethau o’r fath yn y dyfodol.

Dolenni perthnasol