Dathlu ein pobl
13/06/2011

(o’r chwith i’r dde) Karen Cooke, Adnoddau Dynol, yr Athro Sheila Hunt, Dirprwy i’r Dirprwy Is-Ganghellor, Staff ac Amrywiaeth, a’r Athro Terry Threadgold, Dirprwy Is-Ganghellor, Staff ac Amrywiaeth, o flaen yr arddangosfa newydd.
Lansiwyd arddangosfa newydd yn Oriel VJ yn sgil cyflwyno achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl i’r Brifysgol.
Dyma fframwaith sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol, ac mae’r achrediad yn dangos bod y Brifysgol yn ymroi i wella perfformiad a gwireddu amcanion cyffredin drwy sicrhau diddordeb, annog a datblygu ei staff yn effeithiol.
Mae’r Brifysgol, sydd â mwy na 6,000 o aelodau staff, yn un o’r cyflogwyr mwyaf yng Nghymru i sicrhau achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl. Hefyd, dyma’r cyntaf o brifysgolion Grŵp Russell, sydd â chanolbwynt mawr ar ymchwil, i ennill y safon.
Meddai’r Is-Ganghellor, Dr David Grant: “Dyma gamp anhygoel i Brifysgol o’n maint ni ac mae’n llwyddiant unigryw i brifysgol sy’n aelod o Grŵp Russell.”

Mae’r arddangosfa yn dathlu aelodau staff y Brifysgol
I gofnodi achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl y Brifysgol, dadorchuddiodd yr Is-Ganghellor arddangosfa newydd yn Oriel VJ yn y Prif Adeilad, mewn digwyddiad dathlu.
Yn ei araith, dywedodd Dr Grant: “Gallwn ymfalchïo’n fawr yn y llwyddiant hwn, sy’n garreg filltir allweddol i’r Brifysgol, ac sy’n gosod y safon ar gyfer y ffordd y mae’n rhaid i ni weithredu a sut rydym yn cydnabod gwerth pawb.”
Mae’r arddangosfa drawiadol yn cynnwys ffotograffau du a gwyn a dyfyniadau gan rai o aelodau cymuned amrywiol y staff a’r myfyrwyr, o’r gorffennol a’r presennol.
O Millicent McKenzie, un o ddeiliaid cyntaf cadair athro prifysgol benywaidd y Deyrnas Unedig, i’r Llywydd a’r enillydd Gwobr Nobel, yr Athro Syr Martin Evans, mae pob unigolyn sy’n ymddangos yn yr arddangosfa yn rhannu’r hyn sydd o werth iddynt o ran y Brifysgol.

