Newid bywydau
16/05/2011

Margaret Roberts (dde) yn derbyn cyfraniadau gan siopwr o'r archfarchnad
Mae staff a myfyrwyr hael y Brifysgol wedi rhoi dros dunnell o fwyd i helpu pobl dlawd yng Nghaerdydd drwy gynllun y Banc Bwyd.
Mae Banc Bwyd Caerdydd yn brosiect sy'n helpu ac yn cefnogi pobl ar draws y ddinas sy’n wynebu caledi ariannol ac yn methu â bwydo eu hunain na’u teuluoedd.
Dechreuodd cysylltiad Caerdydd â’r Banc Bwyd ym mis Gorffennaf 2010. Dyna pryd yr atebodd Margaret Roberts, Gweinyddwraig yn yr Ysgol Cynllunio Dinesig a Rhanbarthol, e-bost gan ei chyn-bennaeth ysgol yn gofyn am wirfoddolwyr i sefydlu man casglu Banc Bwyd yn yr Ysgol.
Gwelodd Sally O’Connor, sy’n gweithio yn yr Is-adran Ymchwil a Masnach, y blwch yn yr Ysgol ac fe’i hysbrydolwyd i sefydlu’r cynllun yn ei hadran ei hun. Drwy gydweithio â Margaret, penderfynodd Sally dynnu sylw at y cynllun a cheisio cael eraill ar draws y Brifysgol i gymryd rhan.
Meddai Sally: “Hanfod y syniad yw prynu o leiaf un eitem yn ychwanegol oddi ar restr a ddarperir gan y Banc Bwyd bob tro rydych yn mynd i siopa a’i roi mewn blwch penodedig. Caiff y bwyd wedyn ei gasglu, ei bwyso a’i gadw gan weithwyr gofal proffesiynol ar lawr gwlad sy’n rhoi talebau i’r rhai sydd mewn angen. Gellir cyfnewid y talebau am 3 diwrnod o fwyd sy’n gytbwys o ran maeth.”
Erbyn hyn, mae deunaw o gydlynwyr a mannau casglu Banc Bwyd ar draws sawl un o Ganolfannau Ymchwil, Ysgolion ac Adrannau’r Brifysgol, yn ogystal ag yn Undeb y Myfyrwyr, ac mae staff a myfyrwyr y Brifysgol wedi rhoi dros dunnell o fwyd.
Siaradodd Blas â Margaret Roberts am beth a’i hysbrydolodd i ddechrau’r cynllun yn y Brifysgol. Meddai: “Cefais fy ysgogi i gynorthwyo cynllun y Banc Bwyd ar ôl gwylio rhaglen ar y teledu am gynllun tebyg mewn ardal gefnog yng ngogledd Lloegr. Roedd yn galonogol gweld sut roedd yn gwneud gwahaniaeth i’r unigolion oedd yn derbyn y bwyd. Yn aml, roedd hyn yn rhoi mwy o hyder iddynt ac yn eu helpu i ganfod swyddi.
“Gwnaeth i mi sylweddoli fod ots gan ddieithriaid ac y gall rhodd fechan wneud cymaint o wahaniaeth i fywydau pobl. Pan dderbyniais yr e-bost gan Bennaeth ein Hysgol, Chris Webster, roedd yn ymddangos fel y cyfle delfrydol i weld a allai Caerdydd gael newid bywydau pobl er gwell.

(chwith-dde) Andy Davies a Sally O'Connor o staff y Brifysgol yn gwirfoddoli gydag Ian Purcell o Fanc Bwyd Caerdydd
"Mae cysyniad y Banc Bwyd yn un hawdd i’w ddeall ac rydych yn gwybod bod yr holl fwyd a roddir yn mynd i bobl leol sydd mewn angen. Nid problem yng ngwledydd y trydydd byd yn unig yw newyn - mae llawer o bobl yng Nghaerdydd yn byw mewn tlodi, er nad arnyn nhw mae’r bai am hynny. Mae elusennau fel y Banc Bwyd yn gallu gwneud y gwahaniaeth rhwng galluogi pobl i fwyta ai peidio.
"Rydym wedi bod yn gweithio gyda Banc Bwyd Caerdydd mewn ffyrdd eraill gan gynnwys cynnal casgliad gwirfoddol gan staff a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn Sainsbury’s yn Colchester Avenue lle rhoddodd y cyhoedd 948 kg o fwyd mewn un diwrnod yn unig. Roedd gweld haelioni o’r fath gan bobl yn anhygoel,” ychwanegodd.
Canmolodd Ian Purcell, a sefydlodd Banc Bwyd Caerdydd, gyfraniad y Brifysgol at y cynllun. “Mae cyfraniad Prifysgol Caerdydd at Fanc Bwyd Caerdydd wedi bod yn hwb enfawr. Mae un darlithydd gyda 60 o daflenni erbyn hyn yn fyddin o wirfoddolwyr a rhoddwyr sydd wedi cyflawni’r hyn roeddem am ei weld - cymuned ehangach Caerdydd yn ymateb i anghenion unigolion a’r teuluoedd sy’n dioddef ac mewn trafferthion yn ddistaw bach. Mae eich rhoddion a’ch amser wedi gwneud gwahaniaeth enfawr ac maent yn parhau i wneud hynny.”
Gwahoddir staff i helpu prosiect Banc Bwyd Caerdydd yn ystod ail Wythnos Gynaliadwyedd Cymru Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’r Brifysgol yn helpu i gefnogi’r wythnos (14-21 Mai) drwy gydweithio ag unigolion, sefydliadau a chymunedau ledled Cymru i greu cenedl fwy cynaliadwy.
Yn ystod yr wythnos, bydd blwch casglu’r Banc Bwyd yn Oriel VJ y Prif Adeilad i annog staff a myfyrwyr i gyfrannu unrhyw fwyd y maent am eu rhoi.
Ceir rhestr isod o eitemau bwyd y gallwch eu rhoi, a chewch fanylion llawn ar wefan Banc Bwyd Caerdydd.
Enghreifftiau o eitemau bwyd:
Llaeth (UHT ) Grawnfwyd Sŵp mewn tun Sudd ffrwythau (carton UHT) Saws pasta Ffa pob Pwdin sbwng reis (mewn tun) Ffrwythau mewn tun |
Tomatos mewn tun Pasta/Reis/Ffacbys Corbys – ffa wedi’u sychu, gwygbys, ac ati. Cwscws Llysiau mewn tun Tatws stwnsh parod/tatws mewn tun Cig, tiwna ac ati mewn tun. |
Siwgr Blawd Bisgedi/bariau byrbrydau Semolina Olew llysiau Ceirch uwd Halen/pupur Jam |

