Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Croniclo codi adeilad Cochrane

19 Rhagfyr 2011

Cochrane Building

Mae David Orton, Uwch Gynorthwyydd Llyfrgell, wedi treulio'r ddwy flynedd diwethaf yn tynnu ffotograffau o Dŷ Maesyfed yn cael ei ddymchwel ac Adeilad Cochrane, canolfan feddygol flaengar newydd y Brifysgol yn cael ei godi.

Ym mis Tachwedd, symudodd David i adeilad Cochrane a dechrau gweithio wrth ei ddesg newydd. Yma, mae'n dweud wrth Blas sut mae gweithio yn yr adeilad newydd.

Your computer cannot play the audio in your browser. To fix this, you need to make sure both Javascript and Adobe Flash are available.

Get the Adobe Flash plug-in by clicking here

To find out how to enable JavaScript, check the Help option for your browser.


Cardiff University campus users

If you are on the Cardiff University campus and have problems with plug-ins or browsers, you can contact the INSRV Helpdesk on extension 74487 or visit the INSRV webpages


Cyflwynwch eich hun. Helô. Fy enw yw David Cooper Orton, ac ers ymuno â'r Brifysgol ym mis Mawrth 2006, dwi wedi bod yn gweithio yn y Llyfrgell Iechyd (Llyfrgell Sir Herbert Duthie, gynt) ar gampws y Waun. Fy mhrif rôl yma yw prosesu benthyciadau rhynglyfrgellol - archebu ar ran defnyddwyr y llyfrgell unrhyw ddogfennau nad ydynt ar gael o stoc y llyfrgell, a benthyg llyfrau nad ydynt yn cael eu cadw'n lleol o lyfrgelloedd eraill ledled y DU, gan gynnwys y Llyfrgell Brydeinig, a rhwydwaith AWHILES - Gwasanaethau Gwybodaeth Iechyd ac Estyniad Llyfrgelloedd Cymru Gyfan.

Rydych chi wedi tynnu llun o bob cam o ddymchwel a chodiCochrane Building - dwedwch ragor? Yr ateb rhyddieithol yma fyddai i Lindsay Roberts, y Llyfrgellydd yma, ofyn i mi wneud hyn. Roeddwn i eisoes yn tynnu lluniau o'r newidiadau oedd yn digwydd i osodiad Llyfrgell Duthie ac yn rhoi'r rheini ar wefan flickr fel bod pawb yn gallu gweld sut roedd yn edrych, yn enwedig defnyddwyr achlysurol neu Ddysgwyr o Bell oedd eisiau gweld o ble mae'r holl ddeunydd gwych yma rydyn ni'n ei anfon atyn nhw o hyd yn dod.

Felly, datblygiad naturiol oedd cadw cofnod gweledol wrth i Dŷ Maesyfed gael ei fwrw i lawr, ac yna codi Adeilad Cochrane ar y safle gwag. Mae hi bron yn gyfle unwaith mewn bywyd i weld llyfrgell newydd yn cael ei chodi. Wel - efallai ddwywaith, gan fy mod i'n gweithio yn y Llyfrgell Brydeinig yn ystod y cyfnod pan ddaeth 'academi'r heddlu cudd' yn Heol Euston San Pancras, ond roedd cael mynediad i hwnnw ychydig yn fwy anodd.

Beth bynnag, mae Adeilad Cochrane yn union ar fy ffordd i'r gwaith bob dydd, felly roedd hi'n hawdd tynnu ambell lun bob hyn a hyn. Ac o gofio pa mor sydyn y cododd yr adeilad, roedd rhywbeth newydd a gweledol ddiddorol i'w dynnu bron bob amser.

Ble roeddech chi'n gweithio cyn Adeilad Cochrane? Sut bydd y symud yn newid eich gweithle? Roedd yr hen Lyfrgell Sir Herbert Duthie ar ail lawr adeilad Ysbyty Prifysgol Cymru. Gan fod yr adeilad hwnnw bellach tua 40 mlwydd oed ac yn dangos ôl traul, bydd y newid o awyrgylch rhywfaint yn dywyllach yr hen leoliad i'r amgylchedd newydd rheoledig sydd wedi'i godi at y diben yn gwella'r profiad gweithio, gobeithio...er bydd angen i mi ddod i arfer â ffrwyno fy nhuedd i adael i lanast pen desg ledaenu'n llorweddol i bob cyfeiriad.

Beth yn eich barn chi fydd manteision gweithio yn Adeilad Cochrane i fyfyrwyr? Bydd yr amrywiaeth eang o gyfleusterau newydd - ardaloedd cyfrifiadura a labordai addysgu, yr amrywiaeth o leoedd dysgu, gan gynnwys y rhai sy'n addas i astudio unigol tawel, gwaith grŵp, ac ardal i gwrdd yn gymdeithasol - yn welliant mawr ar yr hyn y gallem ei gynnig o'r blaen, o gofio cyfyngiadau lle a gosodiad ardal nad oedd o angenrheidrwydd wedi'i dylunio at ddefnydd llyfrgell, ac enwedig nid y cyfnod cyn cyfrifiaduron.

Beth yn eich barn chi mae cael yr adeilad newydd hwn yn ei olygu i Brifysgol Caerdydd? Mae'n ddatganiad o fwriad difrifol, fod y Brifysgol, hyd yn oed yn y cyfnod anodd hwn, wedi'i hymrwymo i wella'r cyfleusterau sydd ar gael ar gyfer dysgu ym mhob maes, ac yn benodol yma, gofal iechyd.

Beth yw'r peth gorau am Adeilad Cochrane? I mi'n bersonol - mae dipyn yn nes i orsaf reilffordd y Waun.