Dosbarth 2011
11/07/2011
Mae’r seremonïau graddio’n uchafbwynt blynyddol yng nghalendr y Brifysgol ac eleni maent yn cael eu cynnal o ddydd Llun 18 Gorffennaf tan ddydd Gwener 22 Gorffennaf.
Bydd mwy na 7,000 o fyfyrwyr yn graddio ar draws 13 o wahanol seremonïau a chaiff tua 19,000 o’u teuluoedd a’u ffrindiau eu croesawu i Gaerdydd i rannu’r dathliadau.
Caiff y seremonïau eu darlledu’n fyw ar Sgrin Fawr y BBC yn Yr Aes a’u ffrydio ar wefan y Brifysgol, a fydd yn ymestyn i gynulleidfa ledled y byd.
Er mwyn dysgu rhagor am radio ac i gael rhestr lawn o ddyddiadau ac amserau’r seremonïau ewch i www.caerdydd.ac.uk/graduation
Aros mewn Cysylltiad
Mae Caerdydd yn mynd yn gymdeithasol o ran graddio eleni ac yn gofyn i fyfyrwyr, teulu a ffrindiau rannu eu diwrnod gyda ni ar-lein.
Rydym yn gofyn i myfyrwyr sy’n mynd i seremonïau drwy gydol yr wythnos dagio eu lluniau graddio ar Facebook gyda ‘Graddio o Brifysgol Caerdydd’ a thrwy wneud felly gallent fod â siawns o ennill iPad2.
Gall y rhai sydd ar Twitter ein dilyn ar @cardiffuni a thagio eu tweets graddio gyda’n tag clwyd #cu2011. Byddwn yn ail-anfon y rhai gorau at ein 7,000 a mwy o ddilynwyr ym mhob cwr y byd.
Rydym hefyd yn gobeithio rhoi cyhoeddusrwydd i raddio drwy gael pobl i fewngofnodi gan ddefnyddio Facebook Places, Foursquare, Google Latitude a gwasanaethau eraill.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i http://caerdydd.ac.uk/gradsocial

