Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Meithrin arweinwyr a rheolwyr

11/07/2011

Developing leaders and managers

Dyfarnwyd tystysgrifau i: O’r Chwith i’r dde Lynne Smith (Gwasanaethau Corfforaethol), Rhodri Baker (Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth), Michelle Smith (Ysgol Nyrsio ac Astudiaethau Bydwreigiaeth), Steve Williams (Chwaraeon ac Ymarfer), Scott Andrews (Canolfan Dysgu Gydol Oes), Nick Sharratt (Adran Ymchwil a Masnach)  Blaen canol Barbara Tomlin (Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannil)

Mae staff ar draws y Brifysgol wedi ymgasglu i ddathlu ymrwymiad Caerdydd i greu amgylchedd gwaith cadarnhaol drwy ddatblygu gallu mewn arwain a rheoli.

Gwahoddwyd mwy na 70 aelod o’r staff academaidd a chefnogol i Seremoni Gwobrau Arweinyddiaeth Flynyddol yn gynharach y mis hwn i dderbyn eu tystysgrifau gan yr Is-Ganghellor, Dr David Grant. 

Roedd yr achlysur yn dathlu’r Rhaglenni Datblygu Arweinyddiaeth a Rheoli a gwblhawyd yn llwyddiannus yn ystod 2010 / 2011.
Llongyfarchodd Dr Grant hwy ar eu camp a’u hannog i ddal ati i fod yn uchelgeisiol wrth arwain, ac meddai: “Roedd y Rhaglen Datblygu Arweinyddiaeth a Rheoli yn adeiladu hyder yn y staff i roi eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth ar waith a throi her yn weld ymlaen.

“Rwy’n annog pawb a gafodd wobr i fod yn uchelgeisiol wrth arwain, yn enwedig yn ystod yr amseroedd ansicr sydd ohoni. Drwy barhau i fuddsoddi yn ein pobl credaf y gall y Brifysgol droi’r cyfnod hwn o newid yn gyfnod o gyfle mawr.”

Ers 2007 mae dros 400 o staff wedi llwyddo i gwblhau o leiaf un o’r pedair rhaglen. Mae’r rhaglenni hyn yn cynnig cyfleoedd arweinyddiaeth  a rheoli i staff o bob maes a phob disgyblaeth yn y Brifysgol.

Mae’r cyrsiau a gynigir yn cynnwys Rhaglen Datblygu Penaethiaid Ysgolion sy’n anelu at ymgysylltu â phenaethiaid ysgolion newydd eu penodi a’u cynorthwyo wrth iddynt wynebu heriau arwain a’r agenda newid. Mae rhaglenni hefyd ar gyfer arweinwyr timau ymchwil, rheolwyr llinell tro cyntaf a staff sydd eisoes yn ysgwyddo swyddi arwain a rheoli o bwys.

I John Evans, Rheolwr yr Ysgol yn yr Ysgol Gwyddoniaeth Cyfrifiadureg a Gwybodaetheg, roedd y cwrs Arweinyddiaeth Ymarferol i Reolaeth Prifysgol (PLUM) wedi bod yn werthfawr dros ben i’w ddatblygiad personol a’i waith yn yr Ysgol. Dywedodd: “Roeddwn i wedi cwblhau’r cwrs Arwain a Rheoli Timau beth amser yn ôl ac wedi cael hwnnw’n fuddiol iawn. Roeddwn am fynd â’m dealltwriaeth at y lefel nesaf ac felly dyma benderfynu ymrestru ar y cwrs Arweinyddiaeth Ymarferol.

“Y peth pwysicaf mae’r cwrs wedi ei ddysgu  i mi yw’r ystod o sgiliau rheoli sydd ar gael a’r senarios gwahanol sy’n gallu codi yn y gweithle. I mi, yr uchafbwynt oedd gweithio gydag eraill o’r Brifysgol i gyd a dysgu mae pobl yn dod i ben â phob dim mae gwaith yn ei daflu atom ni.” 

Roedd Annika Axelsen o’r Ganolfan Cefnogi Myfyrwyr yn un o fwy na 50 aelod o’r staff a lwyddodd i gwblhau’r rhaglen Arwain a Rheoli Timau. Wrth sôn am yr hyn a gafodd gan y cwrs meddai Annika: “Dysgais fod cyfathrebu yn allweddol i bopeth ac nad ydyw pawb wedi ei eni’n arweinydd ond y gallwn i gyd gymryd camau i fod yn rheolwyr gwell gyda mwy o briodweddau arweinyddol.

“Mae natur ymarferol y cwrs (gan gynnwys ceisio datrys senarios a dysgu ganddynt) yn golygu ei bod hi’n hawdd iawn mynd at y dysgu. Hyd yn oed os ydych wedi bod yn rheoli am ychydig o flynyddoedd byddwn yn argymell y cwrs gan eich bod wrth gymryd rhan yn sylweddoli efallai nad yw’r dull oedd gennych yn y gorffennol yn ddull y byddwch yn ei ddefnyddio bob tro yn y dyfodol.

“O ganlyniad i fynd ar y cwrs rwy’n teimlo’n fwy hyderus yn fy ngalluoedd rheoli a phan gyfyd sefyllfaoedd anodd gallaf gyfeirio’n ôl at y wybodaeth a ddysgais ar y cwrs. Hyd yn oed yn well yw gallu mynd i’r afael ag unrhyw fân faterion cyn iddynt droi’n broblemau mwy.”

Os hoffwch gael gwybodaeth bellach am y dewis o raglenni arweinyddol sydd ar gael cysylltwch â Martin Udwin yn Datblygu Sefydliadol, Adnoddau Dynol ar estyniad: 79232 neu e-bostiwch: UdwinM@caerdydd.ac.uk