Dyfarnu Dwy Safon i Gaerdydd
07 Mawrth 2012
Mae arferion da'r Brifysgol ym maes iechyd a diogelwch a rheoli amgylcheddol wedi cael eu cydnabod wrth i ddwy safon a gaiff gydnabyddiaeth ryngwladol gael eu dyfarnu iddi.
Caerdydd yw'r brifysgol gyntaf yng Nghymru i dderbyn IS0 14001 - safon a gaiff ei chydnabod yn rhyngwladol sy'n dynodi ymrwymiad corff i leihau ei effaith amgylcheddol, a BS OHSAS 18001 sy'n cydnabod bod amgylchedd gweithio diogel ac iach yn cael ei hyrwyddo.
Dyfarnwyd y safonau ar ôl ymarfer pum mlynedd wedi'i arwain gan yr Uned Diogelwch Galwedigaethol, Iechyd a'r Amgylchedd (OSHEU) oedd yn cynnwys pob Ysgol a Chyfarwyddiaeth.
Er mwyn cael ISO 14001 a BS OHSAS 18001, roedd yn rhaid i'r Brifysgol ddangos bod ganddi systemau a gweithdrefnau cadarn yn eu lle i reoli ei heffaith amgylcheddol ac i reoli peryglon yn effeithiol o ran staff, myfyrwyr ac ymwelwyr.
Meddai Mike Salmon, Cyfarwyddwr yr Uned Diogelwch Galwedigaethol, Iechyd a'r Amgylchedd a oruchwyliodd y prosiect: "Mae'r safonau hyn yn bluen yn het y Brifysgol. Ychydig iawn o sefydliadau sydd wedi cyrraedd y ddwy safon arferion da yma. Maen nhw'n cydnabod y systemau effeithiol sydd gyda ni yn eu lle i helpu i leihau ein heffaith amgylcheddol ac i sicrhau bod ein staff a'n myfyrwyr yn ddiogel yn y ffordd y maen nhw'n gweithio o ddydd i ddydd.
"Fel nod ansawdd mae'r safonau hyn yn dangos i randdeiliaid megis cyrff ariannu, asiantaethau gorfodi, ac wrth gwrs i fyfyrwyr a'u rheini, fod gan Brifysgol Caerdydd drefniadau effeithiol yn eu lle i warchod pobl a'r amgylchedd.
"Nid diwedd y daith yw cyrraedd y safonau hyn. Rydym wedi ymrwymo i barhau i wella yn y meysydd hyn a byddwn yn adeiladu ar y mentrau sydd yn eu lle yn ystod y blynyddoedd i ddod."
Mae'r Brifysgol wedi'i hardystio â'r ddwy safon am dair blynedd a chaiff ei harchwilio bob 12 mis gan y corff asesu Bureau Veritas.
Meddai Dr David Grant, yr Is-ganghellor: "Mae cyrraedd safonau ISO 14001 a BS OHSAS 18001 yn garreg filltir i Gaerdydd. Mae'r safonau sicrhau ansawdd hyn yn dangos ein bod wedi ymrwymo i leihau ein hôl troed amgylcheddol ac i roi amgylchedd gweithio a dysgu diogel ar draws ein campws.
"Yn y blynyddoedd i ddod byddwn ni'n sicrhau ein bod ni'n gwreiddio arferion da yn y meysydd hyn ar draws pob rhan o'r Brifysgol. Hoffwn ddiolch i'r Tîm Diogelwch Galwedigaethol, Iechyd ac Amgylcheddol sydd wedi bod yn allweddol wrth helpu'r Brifysgol i ddiogelu'r safonau hyn."

