Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Myfyrwyr bodlon yw'r nod

20 Hydref 2011

CardiffPeople

Mae bodlonrwydd myfyrwyr â'u haddysg ym Mhrifysgol Caerdydd yn dal yn gyson ar 86 y cant, yn ôl Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol eleni - a nod ymdrech fawr yw gwthio'r ganran honno hyd yn oed yn uwch.

Dangosodd y gyfradd ymateb orau erioed fod 86 y cant o'r israddedigion yn y flwyddyn olaf naill ai'n cytuno neu'n cytuno'n gryf eu bod yn fodlon â safon gyffredinol eu cwrs. Mae hyn yn cyfateb i lefel bodlonrwydd y llynedd, fel bod Caerdydd yn uwch na'r cyfartaledd i brifysgolion yng Nghymru a'r DU. Mae ansawdd yr addysgu'n dal yn gryfder penodol, gyda'r lefel bodlonrwydd ar 87 y cant. Yn ogystal gwelodd y Brifysgol ganran uwch am ei hasesu a'i hadborth, gan adeiladu ar welliant y llynedd ac adlewyrchu ymdrech ddwys yn y maes hwn.

Cafwyd lefelau bodlonrwydd uchel iawn mewn rhai meysydd pwnc. Cafodd tua 19 pwnc, yn cwmpasu'r dyniaethau, y gwyddorau, peirianneg, gofal iechyd a'r proffesiynau, gyfraddau bodlonrwydd cyffredinol o dros 90 y cant. Fodd bynnag, cwympodd y Brifysgol yn ôl fymryn mewn dwy o chwe thema'r arolwg a llithrodd yn ôl hefyd mewn nifer o feysydd pwnc.

Er bod y Brifysgol yn perfformio'n llawer gwell na nifer o rai eraill yn y sector, y nod yw gwneud yn well eto. Mae llu o gamau ar y gweill i wella pob agwedd ar addysg ein myfyrwyr. Mae gan bawb sy'n ymwneud ag addysgu a chefnogi myfyrwyr ran i'w chwarae.

Mae'r camau allweddol yn cynnwys:

  • Polisi dros y Brifysgol gyfan i wella prydlondeb, eglurdeb a defnyddioldeb adborth i fyfyrwyr
  • Polisi dros y Brifysgol i gyd i sicrhau bod arferion asesu cyson ledled y Brifysgol
  • Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr, wedi'u hethol gan fyfyrwyr, ym mhob Ysgol
  • Pob Ysgol i lunio cynllun gweithredu unigol i ymateb i Arolwg eleni

Meddai'r Athro Jonathon Osmond, Dirprwy Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr: "Mae cymaint i ymfalchïo ynddo yn ein darpariaeth addysgol, ond allwn ni ddim gorffwys ar ein rhwyfau. Mae ein myfyrwyr yn disgwyl i bethau wella o hyd, ac yn haeddu hynny, a rhaid i ni ymateb i'r hyn y maen nhw wedi'i ddweud wrthon ni drwy'r Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol. Rydym yn gweithredu i fynd i'r afael â'r meysydd hynny lle gwyddon ni fod gwendidau ac i adeiladu ymhellach ar ein cryfderau lu.

"Er mwyn i'r Arolwg fod yn ystyrlon, mae angen cyfradd ymateb uchel arnom hefyd. Dylai cydweithwyr ym mhob Ysgol fod yn meddwl nawr am annog eu myfyrwyr israddedig yn y flwyddyn olaf i gymryd rhan, er mwyn rhagori ar y gyfradd ymateb orau eto eleni, sef 71 y cant."