Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Paratoi at yr etholiad

22 Chwefror 2010

Paratoi at yr etholiad

Gydag etholiad cyffredinol ar y gorwel, mae’r Ysgol Cynllunio Dinesig a Rhanbarthol yn rhoi cyfle i bobl holi aelodau o bedair plaid wleidyddol Cymru ar faterion iechyd, yr amgylchedd, cyfiawnder cymdeithasol a’r economi.

Ar 10 Mawrth 2010 bydd panel o wleidyddion yn ateb cwestiynau am bolisïau eu pleidiau ar gyfer yr etholiad sydd i ddod, gan ganolbwyntio ar y ffyrdd y gall bwyd cynaliadwy a deiet gael effaith ar feysydd allweddol o fywyd Cymru.

Fel rhan o’r paratoi at y digwyddiad, bydd darlith gyhoeddus gyda’r teitl ‘Food for an Intelligent Wales’ yn cael ei rhoi gan Dr Michael Crawford, awdurdod byd-eang ar faeth a’r ymennydd, gan archwilio’r ffyrdd y gall polisïau Cymru lunio ac effeithio ar iechyd y genedl.

Bydd Jane Davidson AC, Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaladwyedd a Thai, Angela Burns AC, Gweinidog yr Wrthblaid dros yr Amgylchedd a Chynllunio, Dr Myfanwy Davies, Ymgeisydd San Steffan Plaid Cymru yn Llanelli a Kirsty Williams AC, Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn cymryd rhan mewn digwyddiad tebyg i ‘Hawl i Holi’ a drefnwyd yn rhan o raglen arloesedd ac ymgysylltu’r Ysgol.

Dr Roberta Sonnino, Darlithydd mewn Polisi a Chynllunio Amgylcheddol yn yr Ysgol fydd yn cadeirio’r drafodaeth. “Mae bwyd rhwng ecoleg a chymdeithas ac mae’n ymgorffori gwahanol ddimensiynau cynaladwyedd fel na all dim byd arall,” meddai Dr Sonnino.

“Mae gan gynhyrchu a bwyta bwyd gysylltiad annatod â’n hiechyd unigol a chymunedol, â chyfanrwydd ein hecosystemau, ac â’n hansawdd bywyd yn gyffredinol. Felly, mae ymyriad gwleidyddol ar amryw gamau’r gadwyn fwyd yn golygu rhoi sylw i amryfal ffurfiau ar amddifadedd a gwneud ymrwymiad ar y cyd i ddyfodol cynaliadwy o ddatblygu economaidd, cadwraeth amgylcheddol a chyfiawnder cymdeithasol.”

Trefnir y digwyddiad ar y cyd â Chynghrair Bwyd Cymru ac mae’n agored i staff, myfyrwyr ac aelodau o’r cyhoedd. Mae’n digwydd o 6 i 8p.m. ar 10 Mawrth yn yr Ystafelloedd Pwyllgora, Adeilad Morgannwg. Pe hoffech fynychu’r digwyddiad, cysylltwch ag Evelyn Osborne - OsborneE1@cardiff.ac.uk Gellir anfon cwestiynau i’r panel drwy e-bost at Evelyn cyn y digwyddiad neu eu cyflwyno wrth i chi gofrestru ar y noson.