Archwiliad cyflog cyfartal
05/09/2011
Mae'r Brifysgol wedi cyhoeddi ei harchwiliad cyntaf o gyflogau cyfartal ac mae'r canlyniadau'n dangos mai prin yw'r bylchau rhwng y ddau ryw o ran cyflog yng Nghaerdydd.
Mae'r data wedi eu dadansoddi gan systemau rheoli gwybodaeth Adnoddau Dynol a'r gyflogres i roi trosolwg o gyflogau ar draws y Brifysgol a chynhaliwyd yr archwiliad gan ymgynghorydd allanol sy'n arbenigwr ym maes cyflog cyfartal.
Diben archwiliad cyflog cyfartal yw:
- Canfod a oes annhegwch yn codi ar sail rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd o gred, ac oedran; a/neu oherwydd trefniadau cytundebol gwahanol
- Dadansoddi natur unrhyw annhegwch yn fanwl
- Dadansoddi'r ffactorau sy'n creu annhegwch a nodi'r rhesymau dros yr achosion
- Penderfynu pa gamau sydd eu hangen i fynd i'r afael ag unrhyw annhegwch na ellir ei gyfiawnhau, a ddatgelwyd drwy ddadansoddi a diagnosis
Roedd yr archwiliad cyflog cyfartal cyntaf yn canolbwyntio ar annhegwch cyflog sy'n deillio yn sgil rhyw a chadarnhawyd mai prin yw'r bylchau sylweddol rhwng y ddau ryw o ran cyflog ym Mhrifysgol Caerdydd. Lle mae bylchau cyflog yn bodoli, maent yn deillio o'r ffaith fod dynion neu ferched wedi'u clystyru ar frig y graddau cyflog yn hytrach nag unrhyw wahaniaethu ar sail cyflog rhwng y rhywiau. Mae'r archwiliad yn dangos bod y dosbarthiad o staff yn ôl rhyw ar draws y graddau yn amrywio'n fawr.
Mae graddfeydd cyflog Prifysgol Caerdydd yn arwahanol ar y cyfan gyda nifer cyfyngedig o bwyntiau cynyddol sy'n cydymffurfio ag arferion da a argymhellir mewn perthynas â gwahaniaethu ar sail rhyw ac oedran. Mae hyn yn cyfrannu at ddiffyg y bylchau cyflog sylweddol rhwng y ddau ryw ym Mhrifysgol Caerdydd.

Yr Athro Terry Threadgold
Dywedodd yr Athro Terry Threadgold, Dirprwy Is-Ganghellor, Staff ac Amrywiaeth: "Mae Caerdydd yn ymrwymedig i gefnogi a datblygu staff drwy ddarparu cyfleusterau, a mynediad i gyfleoedd datblygu personol a gyrfaoedd, a chyflogaeth ar sail gyfartal waeth beth fo'u rhyw. Mae nifer o fentrau i gefnogi merched yn y gweithle eisoes ar waith gan gynnwys Cynllun Mentora'r Prifysgolion i Fenywod - menter sy'n ceisio hyrwyddo a hwyluso datblygiad proffesiynol i fenywod sy'n gweithio ym mhrifysgolion Cymru drwy sefydlu partneriaethau mentora rhwng prifysgolion, ein gwaith magu hyder gyda menywod yn y disgyblaethau SET, ein gwaith Athena Swan a'n gweithdai hyrwyddo i enwi dim ond ambell un. Mae'r rhain i gyd yn helpu menywod i ddatblygu eu gyrfaoedd o fewn y Brifysgol.
"Yr archwiliad cyflog cyfartal hwn yw'r un cyntaf mae'r Brifysgol wedi'i gyhoeddi ac mae'n rhan o ymrwymiad parhaus Caerdydd i sicrhau cydraddoldeb, cydraddoldeb rhwng y rhywiau, a mynd i'r afael â'r cydbwysedd rhwng dynion a merched ym mhob agwedd ar fywyd y Brifysgol."
Mae canlyniadau'r archwiliad wedi cael eu rhannu gyda'r undebau llafur ac mae'r Brifysgol bellach yn gweithio gyda nhw ar nifer o bwyntiau gweithredu a godwyd yn yr adroddiad archwilio.
Mae rhagor o wybodaeth am adroddiad yr archwiliad cyflog cyfartal ar gael yn: http://www.cardiff.ac.uk/humrs/staffinfo/Equalpay/equalpayaudit.html

