Caplan Mwslimaidd cyntaf yn dechrau ar ei swydd
20 Hydref 2011

Dr Sameh Otri
Gall staff a myfyrwyr sy'n chwilio am gyngor, cefnogaeth a gofal bugeiliol gael cefnogaeth bellach gan Gaplan Mwslimaidd cyntaf y Brifysgol.
Mae Dr Sameh Otri wedi’i benodi'n Gaplan Mwslimaidd i gynnig cyngor a chefnogaeth i'r gymuned Fwslimaidd sy'n rhan o 6,000 aelod staff a 27,000 myfyriwr y Brifysgol.
Meddai Ben Lewis, Pennaeth Adran Gwasanaethau Cynghori Myfyrwyr y Brifysgol: "Mae'r Caplaniaethau ym Mhrifysgol Caerdydd yn cynnig lle llawn cyfeillgarwch, croeso, myfyrdod, cefnogaeth, a deialog. Mae'r Caplaniaethau'n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr a staff o bob crefydd ymlacio a dadflino ac edrych ar ffydd ac ysbrydolrwydd.
"Mae ein Caplaniaid yn wrandawyr profiadol sy'n cynnig cefnogaeth fugeiliol ac ysbrydol i staff a myfyrwyr y Brifysgol. Yn ogystal maen nhw'n chwarae rhan allweddol wrth eich cyfeirio at rannau eraill o'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr lle gallwch gael gwasanaethau cwnsela, cyngor ariannol, datblygu sgiliau, a ffurfiau eraill ar gefnogaeth i fyfyrwyr.
"Hefyd mae gan y Caplaniaid gysylltiadau agos ag eglwysi lleol, yn ogystal â mannau addoli sawl ffydd arall. Felly, maen nhw'n gallu siarad â chi am anghenion eich cymuned ffydd leol eich hun.
"Rydym yn ceisio cynnig cyngor a chefnogaeth i bobl o bob cefndir ac o bob ffydd - felly dyna pam mae penodiad Dr Otri yn golygu y byddwn ni'n gallu cynnig y math yma o gefnogaeth i gymuned Fwslimaidd y Brifysgol am y tro cyntaf."
Mae Dr Otri yn aelod adnabyddus o gymuned Fwslimaidd Caerdydd - yn ogystal â bod wedi graddio yma, gan gael MSc a'i ddoethuriaeth o’r Ysgol Beirianneg, mae ganddo hefyd Dystysgrif mewn Hyfforddi Caplaniaid Mwslimaidd o Sefydliad Addysg Uwch Markfield, a oedd yn cynnwys lleoliad yn cysgodi Dr Trystan Owain Hughes, Caplan Anglicanaidd presennol Prifysgol Caerdydd.
Er y bydd yn ymweld yn gyson â champws y Brifysgol, bydd ei brif swyddfa yng Nghanolfan Addysg a Lles Fwslimaidd Dar UI Isra yn Cathays.
Wrth sôn am ei benodiad, meddai Dr Otri: "Mae'n bleser gen i ddechrau ar y swydd newydd hon ac rwy'n edrych ymlaen at gynnig cyngor a chefnogaeth i aelodau o staff a myfyrwyr sydd eu hangen.
"Mae'r Gaplaniaeth hefyd yn cynnig lle lawn cyfeillgarwch, croeso, myfyrio, cefnogaeth a deialog i Fwslimiaid ac mae'n cynnig cyfle delfrydol i'r Gaplaniaeth hyrwyddo deialog rhwng myfyrwyr o ffydd a chefndir gwahanol."
Mae gwybodaeth bellach am wasanaethau a sut gallwch gysylltu â Chaplaniaeth y Brifysgol ar gael yn: www.cardiff.ac.uk/chaplaincy/

