Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Go Affrica

01/06/2010

Go Affrica

6,282 milltir. Dyna bellter trip o Gymru i Liberia yn Affrica ac yn ôl a’r targed i brosiect brwd i godi arian o dan arweiniad yr Athro Judith Hall o’r Ysgol Feddygaeth.

Rhwng 5-11 Mehefin 2010, bydd Go Affrica yn golygu bod pobl o Gaerdydd a thu hwnt yn cymryd rhan mewn gweithgareddau noddedig i godi arian i famau a phlant yn Affrica ac yma yng Nghymru.

Y nod ariannol yw’r pellter - £6282. Gallwch redeg, cerdded, nofio, beicio, rhwyfo neu rafftio am filltir neu fwy i gyfrannu at yr her. Mae un filltir yn cyfateb i rodd o £1 ac mae un awr o weithgaredd yn cyfateb i dair milltir.

Wrth siarad am y digwyddiad, meddai’r Athro Hall: “Mae Go Affrica yn canolbwyntio ar y problemau yn Affrica. Mae’n brosiect gwirioneddol gwerth chweil a gobeithio y gall pawb roi peth amser i gymryd rhan. Nid rhywbeth i staff a myfyrwyr yn unig yw e – ffrindiau, teulu, grwpiau – gall pawb gymryd rhan. Gallwch wneud y pellter drwy unrhyw ffurf ar ymarfer – mae criw’n mynd i ddawnsio tap i ni, hyd yn oed! Byddwn yn dangos y cyfanswm yng nghyntedd Ysbyty Athrofaol Cymru er mwyn i bobl allu gweld faint maen nhw wedi helpu i’w godi.”

Mae rhaglen o weithgareddau wedi’i threfnu i gyd-fynd â’r digwyddiad gan gynnwys:

  • Ras hwyl 5K gan yr Athro Paul Morgan, Deon yr Ysgol Feddygol ddydd Llun 7 Mehefin.
  • Diwrnod rag a ras rafftiau wedi’u harwain gan fyfyrwyr meddygol ddydd Mawrth 8 Mehefin.
  • Bydd David Francis, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn cymryd rhan drwy gerdded marathon 26 milltir o gwmpas pob safle ysbyty yng Nghaerdydd a’r Fro, gan gwrdd â staff ar hyd y daith.
  • Bydd Jamie Roberts, seren rygbi Cymru, yn arwain tîm rygbi ‘Medics’ Caerdydd mewn awr o ymarfer noddedig yn y clwb chwaraeon a chymdeithasol, Ysbyty Athrofaol Caerdydd. Ewch i weld y tîm rhwng 11.00 a 12.00 ar 7 Mehefin.
Runners

Bydd yr holl arian a godir yn cael ei rannu rhwng yr elusen ‘Mothers of Africa’, a sefydlwyd gan yr Athro Hall a’r ymdrechion i godi arian i Ysbyty Plant Cymru.

Elusen addysgiadol feddygol yw ‘Mothers of Africa’ sy’n hyfforddi staff meddygol yn Affrica Is-Sahara i ofalu am famau yn ystod beichiogrwydd a genedigaeth. Prif weithgareddau’r elusen yw ymweliadau â gwledydd Affrica i roi hyfforddiant i staff meddygol anaesthetig sydd yn y rheng flaen wrth roi gofal i famau. Ers i’r elusen gael ei sefydlu yn 2005, mae gwirfoddolwyr wedi helpu i ddatblygu a darparu hyfforddiant mewn pedair gwlad – Benin, Togo, Ethiopia and Liberia.

Wrth sôn am ‘Mothers of Africa’, meddai’r Athro Hall: “Teimlais fod yn rhaid i mi wneud rhywbeth ar ôl clywed meddyg o Benin yn siarad am y gyfradd marwolaethau ymysg menywod oedd yn rhoi genedigaeth yn ei wlad. Clywais e’n siarad mewn seminar am farwolaethau ymysg mamau yn Affrica Is-Sahara a dysgais y byddai’r nifer o fenywod sy’n marw yn Affrica drwy roi genedigaeth - dros 400 - yn llenwi awyren Boeing 747 bob dydd.

“Mae pobl yno heb gael addysg dda, heb gefnogaeth, ac a dweud y gwir mae hi’n wyrthiol eu bod nhw’n gallu gwneud unrhyw beth ag adnoddau. Mae unrhyw beth y gallwn ei wneud yn werth ei wneud.”

Ceir rhagor o wybodaeth am Go Africa yma

Gallwch noddi pobl sy’n cymryd rhan yn y digwyddiad drwy ymweld â thudalennau ‘just giving’ Go Africa yn: http://www.justgiving.com/go-africa