Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Antur yn Zambia

05/09/2011

Go Zambia logo

Mae Deon yr Ysgol Feddygaeth yn rhedeg hanner marathon Caerdydd i godi arian i helpu prosiect cymunedol yn Zambia i gyflawni Amcanion Datblygu'r Cenhedloedd Unedig ar gyfer y Mileniwm.

Ddydd Sul 16eg Hydref 2011, bydd yr Athro Paul Morgan, yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd i godi arian y fenter Go Zambia.

O dan arweiniad yr Athro Judith Hall, Pennaeth Anaestheteg, Gofal dwys a Meddygaeth poen yn yr Ysgol Feddygaeth, mae Go Zambia yn meithrin cysylltiad aml-broffesiynol rhwng Caerdydd a Chongwe yn Zambia.

Pwrpas y cyswllt hwn yw cefnogi'r gymuned yn Zambia i gyflawni Amcanion Datblygu'r Cenhedloedd Unedig ar gyfer y Mileniwm, sy'n cynnwys lleihau marwolaethau plant, gwella iechyd mamau a chyflawni addysg gynradd.

Ynghyd â'r Ysgol Feddygaeth, mae'r fenter hefyd yn anelu at alluogi unigolion o gefndiroedd proffesiynol amrywiol i gymryd rhan yn y cyswllt cymunedol hwn. Er enghraifft, gallai ysgolion lleol yn ne Cymru ddysgu am y ffordd Affricanaidd o fyw a'r gobaith yw y bydd Go Zambia yn helpu i ddatblygu partneriaethau ar draws sectorau sy'n canolbwyntio ar arloesedd, menter a gweithgareddau ymgysylltu.

Professor Paul Morgan

Yr Athro Paul Morgan

Wrth siarad am ei ymdrechion i godi arian, dywedodd yr Athro Morgan: "Fe fydda i'n gwisgo fy esgidiau rhedeg unwaith eto ar gyfer achos newydd pwysig, Go Zambia. Mae hwn yn broses feddygol cymuned i gymuned a'r nod yw cynnwys mwy ohonoch chi yn yr Ysgol Feddygaeth, clinigwyr a gwyddonwyr, efallai rheolwyr a chynllunwyr hyd yn oed. Rydym ar ei hôl hi o ran Amcanion Datblygu'r Mileniwm, felly mae angen i ni wneud mwy. Mae merched yn marw. Mae plant yn marw. Mae prosiect Zambia am archwilio'r gymuned gyfan i weld sut y gallwn wneud cyfraniad fwy a gwell i Amcanion y Mileniwm. "

Mae Go Zambia yn adeiladu ar lwyddiant menter yr Athro Hall Go Affrica, a lwyddodd i godi arian ar ran yr elusen Mamau Affrica (http://www.mothersofafrica.org/). I noddi'r Deon, ewch i http://www.justgiving.com/Paul-Morgan5

Os hoffech chi redeg yn Hanner Marathon Caerdydd a chasglu arian ar gyfer Go Zambia, anfonwch neges e-bost at gozambia@cf.ac.uk i holi am ffurflen noddi.

Gwynegon ar ôl y ras

Physio students

Myfyrwyr ffisiotherapi wrth law yn Hanner Marathon Caerdydd 2010

Gall y rhedwyr sy'n cystadlu yn y Hanner Marathon Caerdydd gael cymorth os byddant yn gwynegu ar ôl y ras, diolch i dîm o ffisiotherapyddion o'r Brifysgol.

Bydd 40 o fyfyrwyr israddedig ffisiotherapi a chlinigwyr proffesiynol o Ysgol Astudiaethau Gofal Iechyd ar gael ar ddiwedd y ras 13.1 milltir i dylino cyrff y miloedd o gystadleuwyr a fydd yn cymryd rhan.

Eleni mae bydd tîm o staff yr adran ffisiotherapi a myfyrwyr yn cymryd rhan yn y marathon, gan roi persbectif gwahanol iddynt ar y digwyddiad. Fel rhan o Ganolfan Biomecaneg a Biopeirianneg Ymchwil Arthritis y DU y Brifysgol, bydd y myfyrwyr yn codi arian ar gyfer Arthritis Research y DU.

I noddi staff yr adran ffisiotherapi a'r myfyrwyr ewch i'r wefan 'just giving’ yn www.justgiving.com/Liz-Evans1