Oriel ffotograffau’r Graddio
29 July 2010

Stephen Fry
@stephenfry: “Amser seremoni Prifysgol Caerdydd. Maen nhw’n fy ngwneud i’n gymrodor anrhydeddus. Mae’r annwyl Matthew Rhys a Michael Sheen wedi rhoi rhywbeth Cymraeg i mi ei ddweud. Ych!”
Dyna neges Stephen Fry ar ‘Twitter’ ar y diwrnod y daeth i Gaerdydd i dderbyn ei Gymrodoriaeth Anrhydeddus oddi wrth y Brifysgol.
Roedd yr actor, yr awdur a’r cyflwynydd yn un o ddeg unigolyn amlwg a gafodd eu cydnabod yn ystod wythnos y graddio (12-16 Gorffennaf) am eu cyfraniadau neilltuol i’w maes. Roedd y lleill yn cynnwys Rebecca Evans, Eliza Manningham-Buller – cyn-bennaeth MI5, a Sir Nicholas Kenyon, Rheolwr Gyfarwyddwr Canolfan Barbican.
Gwyliwch darlith Stephen Fry
Graddiodd dros 7,000 o fyfyrwyr yn seremonïau eleni, a gynhaliwyd am y tro cyntaf dros wythnos ac a lywyddwyd am y tro cyntaf hefyd gan Lywydd y Brifysgol, yr Athro Syr Martin Evans – a enillodd Wobr Nobel am Feddygaeth yn 2007. Ymysg y graddedigion roedd Nathan Cleverly y bocsiwr ac Alex Thorne yr athrylith mathemateg. Graddiodd Alex, sy’n 15 oed yn unig, o’r Ysgol Fathemateg gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf. Wrth ochr Alex, derbyniodd Nathan Cleverly, pencampwr bocsio pwysau gordrwm Ewrop, ei radd BSc mewn Mathemateg.
Wrth sôn am ei gyfnod yng Nghaerdydd, meddai Nathan: “Dwi bob amser wedi ceisio manteisio’n llawn ar fy nghyfleoedd – boed yn arholiad neu’n ornest focsio. Mae fy nhiwtoriaid wedi bod yn dda iawn yn rhoi’r amser roedd ei angen arnaf i focsio – ac felly hefyd, mae fy hyfforddwyr wedi deall gofynion astudiaethau israddedig.
“Y blynyddoedd hyn ym Mhrifysgol Caerdydd fu rhai gorau fy mywyd. Dwi ddim yn edifaru dim i mi gyfuno bocsio a mathemateg – dwi wedi elwa’n fawr iawn ar y ddau beth.”
Wrth ysgrifennu yn rhifyn y graddio o Cardiff News, meddai’r Is-Ganghellor: “Mae’r profiad gwych y mae ein myfyrwyr yn ei fwynhau bob blwyddyn oherwydd gwaith caled ac ymroddiad y staff, yn academaidd a phroffesiynol. Hoffwn ddiolch i holl aelodau’r Brifysgol, yn staff a myfyrwyr, am eu cyfraniad aruthrol. Llongyfarchiadau i chi i gyd - rydych chi i gyd wedi chwarae rhan yng Ngraddio 2010!”
Your computer cannot play the video in your browser. To fix this, you need to make sure both Javascript and Adobe Flash are available.
Get the Adobe Flash plug-in by clicking here
To find out how to enable JavaScript, check the Help option for your browser.
Cardiff University campus users
If you are on the Cardiff University campus and have problems with plug-ins or browsers, you can contact the INSRV Helpdesk on extension 74487 or visit the INSRV webpages
Niferoedd y Graddio
19,000: nifer yr aelodau o’r teulu a ffrindiau a gafodd eu croesawu i Gaerdydd ar gyfer y seremonïau
13: niferoedd y seremonïau a gynhaliwyd yn ystod yr wythnos
600: nifer yr aelodau o staff a fu’n ymwneud â threfnu’r seremonïau
1200: nifer y blychau o fefus a gafodd eu bwyta yn y dathliadau!

