Penblwydd Hapus Blas
31/01/2011
Mae’r Athro Terry Threadgold, Dirprwy Is-Ganghellor, Staff ac Amrywiaeth a chadeirydd y Grŵp Strategaeth Gyfathrebu yn adolygu cyfathrebu â staff ac yn sôn am yr hyn sydd ar y gweill am y flwyddyn sydd i ddod.
“Yn 2010 bu 250 ohonoch chi’n cymryd rhan mewn grwpiau ffocws oedd yn edrych ar y ffordd rydym yn cyfathrebu â’n staff. Sonioch chi wrthon ni am yr hyn roeddech chi’n ei hoffi, yr hyn nad oeddech chi’n ei hoffi a’r hyn yr hoffech chi weld rhagor ohono. Meddylioch chi am nifer o syniadau ac awgrymiadau rhagorol, a chafodd pob un ohonyn nhw eu hystyried gan y Grŵp Strategaeth Gyfathrebu. Yn ystod y misoedd sy’n dod rydym yn gobeithio rhoi nifer o’r rhain ar waith. Rydym ni’n gweithio ar gynllun gweithredu a byddwn yn ei rannu â chi cyn bo hir.
“Tan hynny, gallaf roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am rai o’r pethau rydym eisoes wedi’u rhoi yn eu lle ar ôl clywed eich barn.
“Fe ddwedoch chi eich bod yn hoffi’r cylchlythyr misol Newyddion Caerdydd ond nad ydych chi eisiau derbyn copi print unigol. Yn rhifyn mis Rhagfyr o Newyddion Caerdydd, fe ddwedon ni wrthoch chi sut rydych chi’n gallu dewis peidio â derbyn y copi print os dymunwch, ac y byddwn ni’n cyflwyno stondinau newyddion wedi’u lleoli’n ganolog mewn Ysgolion ac Is-adrannau.
“Hefyd rydym wedi ei gwneud hi’n haws i chi gofrestru i dderbyn y crynodeb dyddiol o’r cyfryngau, wedi’i gynhyrchu gan y tîm Cysylltiadau Cyhoeddus. Neges e-bost fer yw hon sy’n nodi erthyglau newyddion yn y DU ac yn rhyngwladol lle mae’r Brifysgol, ein hymchwil, ein staff a’n myfyrwyr yn cael sylw. Hefyd mae’n cynnwys y prif benawdau yng Nghymru a phrif straeon addysg ac iechyd y dydd. Dylai unrhyw un sydd eisiau derbyn y crynodeb hwn anfon e-bost i publicrelations@cardiff.ac.uk
“Hefyd rydym ni’n gweithio ar nifer o bwyntiau a godwyd gan bob un ohonoch chi. Rydyn ni’n rhoi banc canolog o adnoddau at ei gilydd fel bod gan bob un ohonoch fynediad i logo’r Brifysgol, delweddau a fideos ohoni os bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflwyniadau, cyhoeddiadau neu ddogfennau. Hefyd rydym ni’n gweithio i wella arwyddion a brandio ar draws y Brifysgol.
“Thema arall a godwyd yn y grwpiau ffocws oedd bod eisiau rhagor o gyfleoedd i staff o wahanol rannau o’r Brifysgol gwrdd â’i gilydd a rhwydweithio. Mae enghreifftiau o arferion da ar waith yn barod. Mae Wythnos Iechyd ac Amgylchedd Cadarnhaol a gwobrau Cydnabod Gwasanaeth yn ddau yn unig o’r mentrau a fydd yn dod â staff o bob rhan o’r Brifysgol at ei gilydd i gwrdd yn anffurfiol. Nawr rydym yn edrych i weld sut gallwn adeiladu ar hyn ymhellach.
“Rydym yn hynod ddiolchgar i bob un ohonoch chi a gymerodd ran yn y grwpiau ffocws a’r rhai ohonoch chi sydd wedi rhoi eich adborth i ni mewn ffyrdd eraill. Diolch yn fawr am eich amser, eich syniadau a’ch awgrymiadau wrth i ni ddatblygu cynllun cyfathrebu’r Brifysgol i’r dyfodol.”

Louise Casella
Mae Louise Casella, Cyfarwyddwr, Datblygu Strategol, yn rhoi diweddariad am Strategaeth Gyfathrebu â Staff y Brifysgol.
Pan lansion ni Blas flwyddyn yn ôl, y gobaith oedd y byddai’n gwneud gwahaniaeth mawr i gyfathrebiadau mewnol. Roeddem ni eisiau iddo gefnogi ein blaenoriaethau i wneud cyfathrebu’n eglur, yn gryno, yn agored ac yn amserol.
Gydol 2010 cynhalion ni nifer o grwpiau ffocws gydag amrywiaeth fawr iawn o staff i ddod i wybod beth yw eich barn am gyfathrebu’r Brifysgol ac mae’n bleser gennyf ddweud bod nifer ohonoch chi wedi rhoi adborth cadarnhaol am Blas. Er mai rhywbeth diweddar oedd Blas, roeddech chi’n dweud ei fod wedi cael effaith a’i fod yn gweithio’n dda.
Roedd y grwpiau ffocws a redwyd yn hwyliog, yn fuddiol ac yn werthfawr i’r rhai ohonon ni a fu’n rhan ohonyn nhw, ac rwy’n credu y gallaf siarad ar ran pawb a fu’n hwyluso grwpiau wrth ddweud ein bod ni wrth ein bodd â’r ffordd agored, onest ac adeiladol y rhoddwyd adborth. Roedd cydnabyddiaeth wirioneddol hefyd fod cyfathrebu yn gyfrifoldeb y dylen ni i gyd ei rannu. Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran am eu cyfranogiad bywiog. Mae gwaith y grwpiau wedi ein helpu i nodi’r pethau oedd yn bwysig i chi. Mae’r blaenoriaethau hynny wedi’u trafod gan y Grŵp Strategaeth Gyfathrebu, mae nifer wedi’u rhoi ar waith ac mae gwaith ar y gweill ar rai eraill.
Yn ystod 2011 bydd Blas yn cael ei ddefnyddio i roi’r newyddion diweddaraf i chi am bob agwedd ar fywyd y Brifysgol. Gallwch ddisgwyl clywed rhagor am eich cyflawniadau, newyddion mewnol y Brifysgol a diweddariadau ar brosiectau fel datblygiad Heol Maindy. Rwy’n hyderus y bydd Blas yn parhau i feithrin ymdeimlad o gymuned ac yn rhoi rhagor o ymwybyddiaeth i chi am eich cydweithwyr a’r Brifysgol.
Os nad ydych chi wedi dweud wrthon ni’n barod am yr hyn yr hoffech chi ei ddarllen yn Blas, da chi, cysylltwch â’r tîm cysylltiadau cyhoeddus drwy e-bostio Blas@cardiff.ac.uk . Rydym bob amser yn awyddus i glywed eich awgrymiadau am bynciau ac erthyglau y gallwn eu cynnwys yn Blas yn y dyfodol.

