Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Helô a Hwyl Fawr

07 Mawrth 2012

Pam Clarke

Pam (ail o'r dde) gydag alumni Groeg a Dr. Stephen Bentley (ENGIN) yn Ffair Astudiaethau'r Cyngor Prydeinig yn Athen - Tachwedd 20111

Mae'r Is-adran Datblygu Strategol yn ffarwelio ag un o swyddogion marchnata myfyrwyr mwyaf profiadol yn y DU wrth i Pam Clarke, Pennaeth Recriwtio Ôl-raddedigion ymddeol.

Mae Pam yn ymddeol ym mis Mawrth ac isod, mae Brian Richardson, Cyfarwyddwr yr Isadran Recriwtio Myfyrwyr a'r We (SRWEB) - a Pam ei hun - yn bwrw golwg yn ôl dros ei gyrfa yng Nghaerdydd.

Ôl-nodyn ôl-raddedig Pam

"Mae 36 blynedd o wasanaeth di-dor Pam wedi cynnwys dros 25 mlynedd mewn swyddi recriwtio myfyrwyr, gan gynnwys cyfnodau fel Cofrestrydd Cynorthwyol (Recriwtio a Mynediad) ac yng Ngholeg Meddygol Prifysgol Cymru ar y pryd ac yn Bennaeth Ehangu Mynediad a Recriwtio Myfyrwyr Ôl-raddedig yma yng Nghaerdydd ar ôl yr uno â'r Coleg Meddygol," medd Brian.

"Yn fwyaf diweddar mae swydd Pam yn yr Isadran Recriwtio Myfyrwyr a'r We (SRWEB) wedi canolbwyntio ar y gefnogaeth farchnata sy'n sail i recriwtio myfyrwyr i raglenni ôl-raddedig wedi'u dysgu ac ymchwil, gan lwyddo i gael cynnydd yn nifer y ceisiadau bob blwyddyn a chyflwyno nifer o ddatblygiadau newydd marchnata.

"Mae Pam wedi ennill parch ei chydweithwyr oherwydd ei phroffesiynoldeb, ei brwdfrydedd a'i dibynadwyedd ac mae'n boblogaidd oherwydd ei bod bob amser mor gyfeillgar, siriol ac ystyriol. Fe fyddwn yn gweld ei heisiau am y rhesymau hyn i gyd.

"Fydd hi ddim yn syndod i'r rhai sy'n ei hadnabod bod Pam wedi gwneud ychydig o gynllunio ymlaen llaw ar gyfer ei hymddeoliad ac mae'n hollol barod am fywyd o ymlacio, hynny yw – gyda'i lefelau egni uchel nodweddiadol – ei dehongliad hi, sy'n cynnwys tirlunio'r ardd yn llwyr ac ailaddurno'r tŷ o ystafell i ystafell. Ar nodyn mwy hamddenol, mae hi hefyd yn edrych ymlaen at dreulio rhagor o amser gyda'i thad oedrannus a mwynhau cerdded yn hir yn y wlad gyda Barry'r gŵr.

"Rydyn ni'n dymuno iechyd da a llawer o hapusrwydd i Pam yn ystod ei hymddeoliad."

Hwyl fawr oddi wrth Pam

"Yr unig reswm dwi wedi rhoi 36 blynedd o wasanaeth parhaus gydag un cyflogwr yw am fy mod wedi bod mor hapus yma," medd Pam.

"Mae staff ar bob lefel wedi bod yn gyfeillgar a chefnogol ac mae fy ngwaith wedi bod o fudd mawr i mi, o ran gallu cynnig arweiniad i ddechrau i bobl ifanc oedd yn ystyried gyrfaoedd mewn galwedigaethau iechyd ac yn fwy diweddar i'r ystod ehangach o bynciau ym Mhrifysgol Caerdydd ar lefel israddedig ac ôl-raddedig.

"Fe fyddaf i'n siŵr o weld eisiau her ddyddiol fy swydd ond yn bwysicach, byddaf i'n gweld eisiau'r holl ffrindiau rwyf wedi'u gwneud yn y Brifysgol dros yr holl flynyddoedd yma."