Helô a Hwyl fawr
28 Mai 2012
Blas yn cwrdd â Hugh Jones, Prif Swyddog Gweithredu newydd y Brifysgol i ddod i wybod rhagor am ei swydd.
Ble byddwch chi'n gweithio yn y Brifysgol?
Dw i yn y prif adeilad, yn rhan o Swyddfa'r Is-ganghellor
Beth byddwch chi'n ei wneud yn eich rôl newydd?
Fel y Prif Swyddog Gweinyddol, fi yw pennaeth gweinyddiaeth y Brifysgol. Mae'r Brifysgol - drwy Cardiff Futures - wedi penderfynu bod angen iddi fod yn fwy cydlynus yn ei gweithgareddau cefnogi, a dyna'r swydd sydd gen i - gwneud i bethau weithio'n well; arwain y weinyddiaeth, a gwneud i newid ddigwydd.
Beth roeddech chi'n ei wneud cyn ymuno â Chaerdydd?
Roeddwn i'n Gofrestrydd ac yn Ysgrifennydd yn Goldsmiths, Prifysgol Llundain - swydd debyg iawn mewn prifysgol lai lle mae llawer o ymchwil yn digwydd.
Beth yw rhan orau eich swydd?
Hyd yma, y cynhesrwydd a'r awydd i ymgysylltu dw i wedi dod ar ei draws oddi wrth bawb dw i wedi cwrdd ag ef - yn ddieithriad!
Petaech chi ddim yn eich rôl bresennol, beth fyddech chi'n ei wneud?
Petai pethau wedi bod yn wahanol, byddwn i wedi dwlu ar gael bod yn beiriannydd.
Ble mae eich hoff le ar y campws?
Mae llawer nad ydw i wedi'i ddarganfod eto, ond ar hyn o bryd, dw i'n hoffi bwrlwm Undeb y Myfyrwyr; teimlad croesawgar 50 Plas y Parc, a'r ymdeimlad o le a mawredd yn yr adeiladau o gwmpas Parc Cathays.
Beth yw eich hoff raglen deledu?
Scrum V- Doedd rygbi ddim yn rhan o’m magwraeth ond dwi wedi dysgu dwlu ar y gamp.
Ble rydyn ni'n fwyaf tebygol o ddod o hyd i chi'r tu allan i'r gwaith?
Yn cerdded llwybr arfordir sir Benfro.
Pa un cwestiwn y byddech chi'n hoffi i ddarllenwyr Blas eich helpu i'w ateb am y Brifysgol?
Hoffwn i bawb ofyn cwestiwn i'w hunain: beth gallen nhw eu hunain ei wneud yn wahanol i wneud i'r lle fod yn well? Ac yna i gymryd y cam cyntaf hwnnw!

