Buddsoddi yn iechyd y gweithle
11/07/2011
“Mae gweithlu iach a hapus hefyd yn un cynhyrchiol”, meddai Jim Cole o Uned Diogelwch Gwaith, Iechyd ac Amgylchedd y Brifysgol.
Fel rhan o’r ymrwymiad hwn i iechyd a lles ei staff, mae’r Brifysgol wrthi’n gweithio at ennill y Safon Iechyd Gorfforaethol – nod ansawdd hyrwyddo iechyd yn y gweithle yng Nghymru.
Caiff y Safon Iechyd Gorfforaethol, a ddyfernir gan Lywodraeth Cymru a’i hwyluso gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, ei chyflwyno mewn categorïau efydd, arian, aur a phlatinwm i gyrff cyhoeddus, preifat a thrydydd sector sy’n rhoi arferion ar waith i hyrwyddo iechyd a lles eu gweithwyr.
I’r staff yng Nghaerdydd, bydd y Safon yn arwydd o nod ansawdd ac o ymrwymiad y Brifysgol i les ei staff. O sicrhau bod prydau bwyd cytbwys eu maeth ar gael ym mhob un o werthfannau bwyd y Brifysgol, at godi ymwybyddiaeth am straen a materion iechyd meddwl yn y gweithle, mae’r achrediad yn golygu y gall staff ddisgwyl cael y wybodaeth orau un ynghylch iechyd a’r gefnogaeth orau sydd ar gael.
Bydd yr asesiad, a gynhelir yn ddiweddarach eleni, yn archwilio’r gwasanaethau a ddarperir gan y Brifysgol i gefnogi staff mewn meysydd iechyd a lles amrywiol yn ogystal â sut yr ymdrinnir â materion afiechydon y gellir eu rhwystro. Fel rhan o’r broses asesu gofynnir i’r staff am eu hymwybyddiaeth o’r gwasanaethau sydd ar gael a lle maent yn mynd i ddod o hyd i’r wybodaeth hon.
Gobaith Jim Cole o Uned Diogelwch Gwaith, Iechyd ac Amgylchedd y Brifysgol yw y bydd sicrhau’r Safon Iechyd Gorfforaethol yn codi ymwybyddiaeth am y gwasanaethau a’r gefnogaeth sydd ar gael ar draws y Brifysgol yn ei chyfanrwydd, a dywedodd: “Mae gan y Brifysgol amrywiaeth eang o fentrau hyrwyddo iechyd yn eu lle.
“Mae cymryd rhan yn yr asesiad wedi llywio ymagwedd fwy trefnus a chorfforaethol at y gweithgareddau gwahanol niferus a oedd yn digwydd ar draws y sefydliad. Bydd ennill y Safon Iechyd Gorfforaethol yn rhoi cydnabyddiaeth i’r ymrwymiad sylweddol sydd yn y maes hwn, gan gynnig sail a fframwaith y gallwn drwyddynt ymdrechu i gyrraedd lefelau gwell o iechyd a lles a llwyddiant busnes yn y dyfodol.”
Mae hyrwyddo iechyd a lles cyffredinol yn rhan o amgylchedd gwaith cadarnhaol wedi ei waelodi yn niwylliant y Brifysgol ers llawer blwyddyn. Mae’r Wythnos Iechyd ac Amgylchedd Cadarnhaol, sydd ar droed ar hyn o bryd, yn dangos y gwasanaethau a’r gweithgareddau cefnogi lluosog sydd eisoes yn eu lle yn y Brifysgol.
Am fanylion am y ffyrdd niferus y gall y Brifysgol gefnogi’ch iechyd a’ch lles ewch at: www.caerdydd.ac.uk/for/staff/wellbeingatwork/index.html
Am fwy o wybodaeth ar y Safon Iechyd Gorfforaethol ewch at www.caerdydd.ac.uk/chs

