Llwyddiant arweinyddiaeth a rheolaeth
24 Awst 2010

Rhai o'r staff llwyddiannus gyda Is-Ganghellor Dr David Grant
Mae rheolaeth foesegol, arwain newid a chyfathrebu’n effeithiol ymhlith y sgiliau a gafodd eu datblygu a’u mireinio gan aelodau o’r staff mewn dwy raglen hyfforddiant gan y Brifysgol.
Cafodd 27 o staff o Ysgolion academaidd ac isadrannau gweinyddol eu llongyfarch gan yr Is-Ganghellor Dr David Grant ar ôl iddynt gwblhau’r rhaglenni anodd - Arweinyddiaeth Ymarferol ar gyfer Rheolwyr Prifysgol; ac Arwain a Rheoli Timau sydd â’r nod o wella sgiliau’r cyfranogwyr o ran arwain a rheoli.
Yn y digwyddiad dathlu blynyddol a gynhaliwyd yn yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau Golygol, cyflwynodd Dr Grant dystysgrifau’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM) i 11 aelod o'r staff am gwblhau Arweinyddiaeth Ymarferol ar gyfer Rheolwyr Prifysgol a thystysgrifau’r ILM i 16 o bobl am gwblhau Arwain a Rheoli Timau. Ymunwyd â nhw yn y digwyddiad gan lu o bobl a oedd wedi bod yn rhan o’u dysgu, gan gynnwys tiwtoriaid, cyfranwyr allanol, rheolwyr llinell a mentoriaid.
Wrth siarad am y rhaglen Arweinyddiaeth Ymarferol ar gyfer Rheolwyr Prifysgol, dywedodd un o’r cyfranogwyr, yr Athro Claire Gorrara: “Roedd y cwrs yn gynhyrchiol dros ben. Dysgais lawer o'r gwaith academaidd a sut i gefnogi a hyrwyddo arferion gorau o ran rheoli. Hefyd, llwyddais i gydnabod a deall mwy am fy nulliau i o reoli ac arwain a sut orau i ddatblygu fy nghryfderau fy hun a mynd i’r afael ag agweddau nad oeddwn mor hyderus yn eu cylch.”
Bu Sarah Woods o Is-adran Gynllunio’r Brifysgol yn cymryd rhan yn y Rhaglen Arwain a Rheoli Timau. “Mae hwn yn gwrs anhygoel i’r rhai sydd ar hyn o bryd yn arwain a rheoli timau neu i’r rheini sy’n dymuno dysgu’r sgiliau ar gyfer y dyfodol,” meddai Sarah. “Mae’n rhyngweithiol iawn gyda thiwtor gwych – byddwn yn ei argymell i bawb waeth beth yw eu lefel neu swydd.”
Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i ddatblygu ei diwylliant arweinyddiaeth trwy amrediad o raglenni datblygu arweinyddiaeth a rheolaeth sy’n cael eu darparu’n fewnol. Nod y rhain yw hybu a chynnal amgylchedd gweithio positif i’r holl staff. Mae’r seremoni wobrwyo’n dathlu bod amrediad eang o bobl, yn staff academaidd a staff chymorth o bob lefel o’r Brifysgol, nid yn unig wedi cael eu hyfforddi ond hefyd wedi ennill dyfarniadau sy’n cael eu cydnabod gan yr ILM.
I gael gwybod rhagor am y rhaglen Arweinyddiaeth Ymarferol ar gyfer Rheolwyr Prifysgol, y rhaglen Arwain a Rheoli Timau (y ddau’n cael eu cydnabod gan yr ILM) neu gyfleoedd hyfforddi eraill, byddwch cystal ag ymweld â www.cardiff.ac.uk/humrs/staffinfo
Rhestr o’r rhai a lwyddodd i gwblhau Arweinyddiaeth Ymarferol ar gyfer Rheolwyr Prifysgol
- Tamsin Carey-Lang (CAIRD)
- Emma Darling (CAIRD)
- Andrew Davies (CARBS)
- Jane Davies (SONMS)
- Keith Davies (CORPH)
- Claire Gorrara (EUROS)
- Julie Hepburn (CARSV)
- Karen Holford (ENGIN)
- Mair Hopkin (PGMDE)
- David Jiles (ENGIN)
- Michelle Jones (HUMRS)
- Stephen Marchant (FINCE)
- Helen Nicholson (HISAR)
- Wendy Ross (RACDV)
- Leona Walsh (PGMDE)
- Laura Williams (RACDV)
- Sarah Woolley (MUSIC)
Rhestr o’r rhai a lwyddodd i gwblhau Arwain a Rheoli Timau
- Leanne Ashill (ESTAT)
- Heather Balls (RESID)
- Lisa Bassett (PGMDE)
- Miriam Carson (INSRV)
- Carol Davies (JOMEC)
- Rosemary Granger (MEDIC)
- Rachel Hampton (CAIRD)
- Claire Hobbs (ARCHI)
- Judith Hurford (INSRV)
- Anna Hurley (MEDIC)
- Gerard Kennedy (DEVAR)
- Fiona Kiely (DENTL)
- Christine Lee (ENGIN)
- Mark Lewis (BIOSI)
- Amy Luther (CAIRD)
- Gareth Mahoney (WLTC)
- Susan McDonald (RESID)
- Paola Moruzzi (CAIRD)
- Kim Parker (REGIS)
- Matthew Richards (SPORT)
- Georgie Thomson (CLAWS)
- Jo Wells (INSRV)
- Steph Whitfield (MEDIC)
- Sarah Williams (MEDIC)
- Sarah Woods (RACDV)

