Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Ysgolorion blaenllaw o’r UD yn ymweld â Chaerdydd

14 Ionawr 2010

Mae deugain o ysgolorion mwyaf mawreddog yr UD wedi ymweld â’r Brifysgol fel rhan o Fforwm Fulbright – rhaglen drochi ddiwylliannol flynyddol â phroffil uchel ar gyfer holl Ysgolorion Fulbright America sy’n astudio, ymchwilio ac yn darlithio yn y DU ar hyn o bryd.

Yn ystod eu hymweliad cyntaf â Chymru, cafodd yr ysgolorion gyfle i wrando ar ddarlithoedd gan rai o’r athrawon mwyaf blaenllaw yng Nghymru, wrth iddynt rannu agweddau ar yr ymchwil o safon fyd-eang sy’n cael ei chynnal yn y Brifysgol.

Cawsant eu croesawu gan Is-ganghellor y Brifysgol, Dr David Grant a’r Llywydd ac enillydd gwobr Nobel, Syr Martin Evans.

Sefydlwyd Comisiwn Addysgol yr UD-DU (Comisiwn Fulbright) ym 1948, ac mae’n cynnig yr unig raglen gwobrau academaidd drawsatlantig rhwng yr UD a’r DU. Bob blwyddyn, mae tua 50 o ddinasyddion y DU a 50 o ddinasyddion yr UD yn astudio, darlithio, cynnal gwaith ymchwil neu’n canolbwyntio ar ddatblygiad proffesiynol mewn sefydliadau blaenllaw yn eu gwlad letyol.

Y Brifysgol yw un o ddwy brifysgol yn unig yng Nghymru sy’n cynnig Ysgoloriaethau Fulbright, gan roi’r cyfle i rai o fyfyrwyr gorau yr UD astudio yn y DU.

Dywedodd yr Is-ganghellor, Dr David Grant, a groesawodd Ysgolorion Fulbright: “Roeddwn wrth fy modd yn croesawu’r Fforwm Fulbright cyntaf i ymweld â Chymru. Roedd yn fraint go iawn croesawu’r grŵp o Ysgolorion Fulbright rhagorol i Gaerdydd.

“Mae ysgolorion Fulbright ymhlith yr ysgolorion gorau yn y byd ac aiff llawer o ysgolorion Fulbright ymlaen i fod yn arweinwyr yn eu meysydd penodol.

“Un o flaenoriaethau mwyaf allweddol y Brifysgol yw meithrin a datblygu cysylltiadau presennol a phellach gyda’r UD. Mae gennym hanes hir o gysylltiadau ymchwil rhwng y ddwy wlad eisoes, gyda llawer o’n hacademyddion yn cymryd rhan mewn gwaith ymchwil gyda sefydliadau yn yr UD a datblygiad parhaus cysylltiadau strategol a chydweithio.”

Un o’r tri o Ysgolorion Fulbright sy’n astudio ym Mhrifysgol Caerdydd eleni yw Dr Sarah Campbell, a ymunodd ag Ysgol y Gymraeg y Brifysgol ym mis Medi 2009.

Mae Dr Campbell, sydd â Doethuriaeth mewn Drama Ganoloesol, yn bwriadu treulio ei hamser yn y Brifysgol yn datblygu ei hymchwil i ddrama Gymreig.

Dywedodd Dr Campbell: “Nod Ysgoloriaeth Fulbright yw dod ag ysgolorion o’r Unol Daleithiau a gwahanol wledydd a diwylliannau at ei gilydd. Roeddwn wrth fy modd yn cael y grant ac roedd rhaid i mi astudio yng Nghymru. Cefais fy nhynnu at ddrama Gymreig gan fod cyn lleied o waith ymchwil arni. Mae’r gwaith diweddaraf a gyhoeddwyd arni bron yn gan mlwydd oed. Nid yw’r ddrama ‘Y Gŵr Kadarn’ wedi bod ar gael i ysgolorion.

“Bydd fy Ysgoloriaeth Fulbright yn fy ngalluogi i gyhoeddi’r gwaith hwn ac arwain perfformiad o’r gwaith na fyddai ar gael yn flaenorol.”

Rhoddodd ymweliad tridiau â Chymru, a drefnwyd gan Gonsortiwm Rhyngwladol Cymru (WIC), gyfle i Ysgolorion Fulbright ymweld â chastell canoloesol Caerdydd, canolfan gelf flaenllaw'r ddinas, Canolfan Mileniwm Cymru (CMC) a chartref Llywodraeth Cymru - Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn ogystal ag ymweld ag Abertawe ar gyfer ystod o ddigwyddiadau.

Un o raddedigion proffil uchel y Brifysgol a fydd yn cael budd o’r cyfle i astudio yn yr UD sy’n cael ei gynnig gan Gomisiwn Fulbright yw’r AS ar gyfer Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Adam Price.

Mae Adam Price, a astudiodd Astudiaethau Cymunedol Ewropeaidd ac sy’n gyn ymchwilydd cysylltiol yn adran Cynllunio Dinesig a Rhanbarthol y Brifysgol, wedi cyhoeddi ei fod yn bwriadu tynnu’n ôl fel AS yn ddiweddarach eleni i ddod yn Ysgolor Fulbright yn astudio datganoli a datblygu economaidd yn yr UD.

Your computer cannot play the video in your browser. To fix this, you need to make sure both Javascript and Adobe Flash are available.

Get the Adobe Flash plug-in by clicking here

To find out how to enable JavaScript, check the Help option for your browser.



Cardiff University campus users

If you are on the Cardiff University campus and have problems with plug-ins or browsers, you can contact the INSRV Helpdesk on extension 74487 or visit the INSRV webpages