Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Dyn meddygol

12 Hydref 2010

Llais newydd i fyfyrwyr gofal iechyd Caerdydd, Oli Luton

Nid tasg hawdd yw sicrhau bod 5,000 myfyriwr gofal iechyd Prifysgol Caerdydd yn cael mynediad i wasanaethau cefnogi, gwell cysylltiadau trafnidiaeth a’u bod nhw’n teimlo’n rhan o gymuned y Brifysgol – ond mae Oli Luton, y swyddog myfyrwyr gofal iechyd sydd newydd gael ei ethol wedi addo mynd i’r afael â’r dasg hon. 

Mae Oli, sydd newydd gwblhau trydedd flwyddyn ei radd feddygol, yn cymryd yr awenau fel Swyddog Integreiddio Gofal Iechyd newydd Undeb Myfyrwyr Caerdydd – rôl sydd i fod i roi llais i fyfyrwyr gofal iechyd y Brifysgol ym Mharc y Waun.

“Dwi’n mwynhau her dda, ac mae’n debyg nad oes her sy’n fwy na phlesio myfyrwyr gofal iechyd Prifysgol Caerdydd,” mynna Oli. “Dwi’n mwynhau gwneud gwahanol bethau gwahanol a dysgu gwahanol sgiliau – mae’n gyfle i greu newid gwirioneddol a pham na fyddech chi eisiau gwneud swydd sy’n cynnig y cyfleoedd hyn.”

Fodd bynnag, mae Oli’n deall yn iawn fod y dasg yn un fawr – heb sôn am yr amrywiaeth o faterion sy’n effeithio ar gymuned gofal iechyd amrywiol sy’n cynnwys myfyrwyr meddygol, nyrsys, myfyrwyr deintyddol a bydwragedd.

Mae gwella gwasanaethau cefnogi ar gampws Parc y Waun ar frig ei restr ac mae eisoes wedi mynd i’r afael ag amryw o bryderon myfyrwyr – yn fwyaf neilltuol, herio cynlluniau i gwtogi cronfeydd caledi i rai o’r myfyrwyr mwyaf agored i niwed a gwneud addewid pwysig i gefnogi myfyrwyr nyrsio.

Medd Oli: “Mae nifer o faterion y mae angen rhoi sylw iddyn nhw eleni – fe fu llawer iawn o sylw ar fyfyrwyr meddygol y llynedd.

“Fodd bynnag eleni, dwi’n teimlo y bydd nyrsys hefyd yn elwa ar gael sylw, nid o ran strwythur eu cwrs ond yn fwy o ran eu hymwneud cymdeithasol â gweddill y Brifysgol a hyd yn oed â’i gilydd.

“Dwi’n bwriadu rhoi sylw i’r sefyllfa dai o ran neilltuo neuaddau yn y flwyddyn gyntaf lle mae’r rhan fwyaf o nyrsys a myfyrwyr gofal iechyd yn tueddu i gael eu gosod i fyw yn yr un fflatiau. Hefyd, hoffwn edrych ymhellach ar eu system derbyn lle mae hanner grŵp y flwyddyn yn cyrraedd ym mis Medi a’r hanner arall ym mis Mawrth.”

Mae Oli hefyd yn awyddus i ddefnyddio’i amser yn ei swydd i atgoffa pobl am y cyfraniad cadarnhaol y mae myfyrwyr gofal iechyd yn ei wneud i’r Brifysgol a’r gymuned ehangach.

“Mae’n bosib rhoi llawer o sylw i agweddau negyddol ar fywyd myfyrwyr, yn enwedig yn y cyfryngau, ond mae angen i bobl gydnabod yr holl waith da sy’n cael ei wneud gan y staff a’r myfyrwyr ar Gampws Parc y Waun.

“Mae gennym doreth o gymdeithasau unigryw, sy’n amrywio o MedSoc sy’n effeithiol iawn o hyd wrth roi cymorth i bob math o faterion cymdeithasol, academaidd a lles sy’n codi ar y Waun, i’r cymdeithasau mwy newydd sy’n cynrychioli myfyrwyr Bydwreigiaeth a Nyrsio (MANS), Ffisiotherapyddion (PACS) neu ddeintyddion (Dental SOC).

“Hefyd mae gennym gymdeithasau elusennol anhygoel sydd wedi codi bron i £10,000 mewn pythefnos o dan arweinyddiaeth Rag y Waun eleni. Wedyn mae’r tîm chwaraeon sy’n cystadlu ar lefelau di-ri ym mhencampwriaeth BUCS yn cynnal y campau mwyaf traddodiadol ac mae rygbi’r myfyrwyr Meddygol yn cystadlu yn yr un gynghrair â thîm rygbi cyntaf Dynion y Brifysgol.”

Gall myfyrwyr gofal iechyd a hoffai gael cyngor neu godi pwnc sy’n peri pryder gysylltu ag Oli ar 02920 781420 neu drwy e-bostio: LutonO@cardiff.ac.uk