Dewch i gwrdd â chapten rygbi Tîm Caerdydd
30 Ebr 2012
Bydd myfyrwyr Caerdydd yn cystadlu yn erbyn myfyrwyr Abertawe mewn dros 20 camp wahanol yn ystod Cystadlaethau Prifysgolion Cymru. Cafodd Blas gyfle i sgwrsio â Jake Cooper-Woolley, sy'n 22 oed, capten tîm Rygbi Cyntaf y Dynion a fydd yn cynrychioli Caerdydd yn y gêm yn Stadiwm y Mileniwm i gael gwybod rhagor amdano a sut mae'n paratoi at y digwyddiad.
Blas: Pa bwnc rwyt ti'n ei astudio?
Jake: BSc mewn Daearyddiaeth Ddynol
Blas: Pa safle rwyt ti'n ei chwarae ar y cae rygbi?
Jake: Prop
Blas: Pa mor aml rwyt ti'n hyfforddi?
Jake: Mae'r ymrwymiad i glwb y Brifysgol tua phedair sesiwn a gêm yr wythnos. Mae'n gymysgedd o hyfforddiant sy'n benodol i rygbi, pwysau a ffitrwydd. Ond mae mwyafrif ein tîm ni hefyd yn chwarae i glybiau dros dde Cymru, felly mae ganddyn nhw ymrwymiadau ychwanegol yn ogystal â rhywfaint o hyfforddi pwysau personol.
Blas: Ers pryd rwyt ti wedi bod yn ymwneud â rygbi?
Jake: Dechreuais chwarae rygbi yn naw mlwydd oed i'r clwb lleol gartref, a dwi wedi bod yn chwarae ers hynny.
Blas: Beth yw uchafbwynt dy yrfa chwaraeon hyd yma?
Jake: Cael bod yn rhan o'r tîm mwyaf llwyddiannus fuodd gan y Brifysgol erioed o fewn BUCS ar ôl curo Prifysgol Abertawe ddwywaith a churo UWIC gartref.
Blas: Beth mae Cystadleuaeth y Prifysgolion yn ei olygu i'r chwaraewyr?
Jake: Mae'r gystadleuaeth yn rhoi cyfle i fyfyrwyr sy'n gwneud chwaraeon gystadlu â'u prif wrthwynebwyr yng Nghymru ym mha bynnag gamp. Dwi'n credu hefyd bod y gystadleuaeth yn golygu llawer i fyfyrwyr nad ydynt nhw'n gwneud chwaraeon achos mae'n un o'r ychydig achlysuron pan fydd myfyrwyr o bob cefndir, cymdeithas a chlwb yn gallu dod at ei gilydd a chefnogi'r Brifysgol mewn lleoliad gwych.
Blas: Beth yw'r peth gorau am astudio yng Nghaerdydd?
Jake: Cystadleuaeth y Prifysgolion. 100%
Blas: Oes gen ti ffaith ddiddorol am dy hunan?
Jake: Aeth fy ngefell i Brifysgol Abertawe a gwisgo gwyrdd a gwyn ar ddiwrnod Cystadleuaeth y Prifysgolion!
Dyma gyfle ichi gael cip ar rai o aelodau eraill Tîm Caerdydd yn eu paratoi eu hunain at Gystadleuaeth Prifysgolion Cymru: http://cardiffunion.tv/welsh-varsity-2012-are-you-ready/

