Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Dewch i Gyfarfod â Phwyllgor Gweithredol Undeb y Myfyrwyr eleni

05/09/2011

Marcus Coates-Walker

Marcus Coates-Walker

Mae Undeb Myfyrwyr Caerdydd yn cynnig ystod eang o gyfleoedd i'n myfyrwyr, o gymdeithasu a datblygiad personol i wirfoddoli yn y gymuned a chymryd rhan yn undeb cyfryngau'r myfyrwyr.
Mae'r Undeb yn cael ei redeg gan fyfyrwyr i fyfyrwyr; a'r weledigaeth yw "Rhoi Myfyrwyr yn Gyntaf".  Dewch i gyfarfod â'r Pwyllgor Gweithredol ar gyfer eleni, sef y swyddogion a etholwyd gan y myfyrwyr i gynrychioli eu barn a llywio un o Undebau Myfyrwyr mwyaf y DU.

 

 

 

Marcus Coates-Walker - Llywydd

@PresidentCSU

Y Llywydd yw wyneb cyhoeddus yr Undeb ac mae'n gyfrifol am oruchwylio a chydlynu'r Swyddogion eraill.

Mae Marcus Coates-Walker, a gafodd ei ethol fel Llywydd yn y etholiadau'r Undeb ym mis Mawrth 2010, yn trafod ei gynlluniau ar gyfer y flwyddyn academaidd hon.

"Fy mlwyddyn fel Llywydd fydd y profiad mwyaf cyffrous a heriol yn ystod fy amser yng Nghaerdydd. Mae Undeb y Myfyrwyr yn cael ei arwain eleni gan dîm gwych o unigolion brwdfrydig ac ymroddedig, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n golygu y cawn flwyddyn gynhyrchiol a llwyddiannus iawn.

"Mae gwrando ar y myfyrwyr yn rheolaidd ac ymateb i'w barn yn rhan annatod o bopeth a wnawn yn Undeb y Myfyrwyr. Ar ôl ymweld ag Undebau blaenllaw eraill ar draws y DU, mae'n amlwg bod safon y gwasanaethau yn Undeb Myfyrwyr Caerdydd yn hynod o uchel. Er hyn, un o'r prif amcanion yw gwella ymwybyddiaeth o'r gwasanaethau hyn drwy ddulliau arloesol iawn i sicrhau bod holl sectorau amrywiol y myfyrwyr yn ymwybodol o'r cyfleoedd gwych sydd ar gael yma yng Nghaerdydd.

"Fy uchelgais bersonol yw sicrhau bod cyflogadwyedd ar flaen y gad o ran ffordd Undeb y Myfyrwyr o feddwl eleni. Heb hyd yn oed ystyried y newidiadau anochel i'r ffioedd dysgu, fy uchelgais yw sicrhau mai graddedigion Caerdydd yw'r rhai mwyaf profiadol a chystadleuol yn y DU. Drwy gydweithio â'r Brifysgol, credaf y gallwn wella'r cyfleoedd cyflogadwyedd o fewn y ddau sefydliad. "Ar ran y tîm swyddogion etholedig, gallaf ddweud ein bod yn falch iawn o gael ein hethol i gynrychioli myfyrwyr Caerdydd a'n bod yn falch o weithio ochr yn ochr ag amrywiaeth sylweddol o bobl dalentog, amyneddgar a derbyngar o fewn y Brifysgol."

Chris Davies

Chris Davies

Chris Davies - Lles a Chyfathrebu

@WelfareCSU

Mae Chris yn cydlynu ymgyrchoedd Undeb y Myfyrwyr, yn arwain dulliau cyfathrebu Undeb-i-fyfyriwr ac mae'n trefnu'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, Cyngor y Myfyrwyr a'r etholiadau.

 

 

 

Nick Matthews

Nick Matthews

Nick Matthews - Cyllid a Masnachol

@FinanceCSU

Mae Nick yn gyfrifol am gyllid a gweithgareddau masnachol yr Undeb ac mae'n gweithredu fel ysgrifennydd y cwmni a thrysorydd yr undeb.

 

 

 

 

Oliver Smith

Oliver Smith

Oliver Smith - Pennaeth Cyfryngau Myfyrwyr

@MediaCSU

Oliver yw golygydd a chyhoeddwr gair rhydd. Ef hefyd yw golygydd gweithredol Cylchgrawn Quench a rheolwr gweithredol / rheolwr Xpress Radio a Cardiff Union TV.

 

 

 

Sam Reid

Sam Reid

Samantha Reid - Materion Academaidd a'r Brifysgol

@AcademicCSU

Mae Samantha yn cynrychioli myfyrwyr ar faterion academaidd ac yn cynnal cysylltiadau cryf gydag ysgolion y Brifysgol.

"Fel Swyddog Academaidd a Materion y Brifysgol rwy'n bwriadu gweithio'n galed i sicrhau mwy o lais i'r myfyrwyr drwy'r system gynrychioli a thrwy gynrychioli myfyrwyr ar bob lefel o fewn y Brifysgol."

 

Harry Newman

Harry Newman

Harry Newman - Swyddog Cymdeithasau

@SocietiesCSU

Harry yw'r prif bwynt cyswllt ar gyfer Cymdeithasau ac mae'n gyfrifol am weithgareddau'r Cymdeithasau yn yr Undeb. Mae hefyd yn hyrwyddo amrywiaeth ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol o fewn Undeb y Myfyrwyr.

 

 

 

Sarah Halpin

Sarah Halpin

Sarah Halpin - Swyddog Integreiddio Gofal Iechyd

@HealthcareCSU

Mae Sarah yn gyfrifol am integreiddio myfyrwyr Gofal iechyd i Brifysgol Caerdydd yn gyffredinol. Mae'n arwain ar faterion Gofal Iechyd ac mae'n gweithio i wella dulliau cyfathrebu â myfyrwyr Gofal Iechyd.

 

 

 

Ollie Devon

Ollie Devon

Ollie Devon - Llywydd yr Undeb Athletau

@AUPresidentCSU

Mae Ollie yn goruchwylio'r gwaith o redeg yr Undeb Athletau ac mae'n cydlynu gweithgareddau holl glybiau'r Undeb Athletau a rhaglen a'r rhaglen IMG.

"Fel Llywydd yr Undeb Athletau eleni, un o'r prif amcanion yw codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd chwaraeon i fyfyrwyr a'r angen i Brifysgol Caerdydd fuddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon gwell."