Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol 2011
22/03/2011
Mae’r Brifysgol yn ymdrechu i gael ymateb da i Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol eleni (National Student Survey, NSS) - ac mae’n chwilio am staff i helpu.
Mae’r NSS yn cael ei gyhoeddi’n flynyddol, ac mae’n gofyn i fyfyrwyr blwyddyn olaf sy’n astudio ym mhob prifysgol yn y DU raddio eu haddysg. Mae’r myfyrwyr yn graddio’r addysgu, yr asesu, y cymorth academaidd, y drefniadaeth, yr adnoddau dysgu, eu datblygiad personol a’u boddhad cyffredinol. Mae’r canlyniadau’n cael eu cyhoeddi’n genedlaethol bob mis Awst.
Mae’r Arolwg yn rhan bwysig o gynllunio addysgol y Brifysgol, ac yn ei galluogi i nodi meysydd lle mae angen rhagor o weithredu. Y llynedd, cafodd Caerdydd y gyfradd ymateb orau erioed, sef 66 y cant. Eleni rydym eisiau rhagori ar hyn.
Mae myfyrwyr Caerdydd eisoes wedi cael e-bost yn eu gwahodd i lenwi’r NSS ac maen nhw’n dechrau ymateb. Hoffem i staff helpu drwy godi ymwybyddiaeth eich myfyrwyr am yr arolwg a’u hannog i lenwi’r arolwg ar-lein ar www.thestudentsurvey.com. Gallwch wneud hyn ar ddechrau darlithiau neu sesiynau tiwtorial – unrhyw fan lle rydych chi’n cysylltu â’ch myfyrwyr. Mae posteri a deunyddiau marchnata eraill wedi’u dosbarthu i Ysgolion i’ch helpu i roi cyhoeddusrwydd i’r arolwg, ac mae Undeb y Myfyrwyr wrth law i helpu i roi gwybodaeth mewn darlithiau ac i ymgysylltu â’ch myfyrwyr.
Wrth hyrwyddo’r arolwg, gwnewch yn siŵr:
- bod eich myfyrwyr yn teimlo’n rhydd i roi eu hadborth onest am yr hyn roedden nhw’n ei hoffi ac nad oedden nhw’n eu hoffi am eu cwrs
- nad oes disgwyl i’r myfyrwyr lenwi’r arolwg tra bydd aelod o staff yn goruchwylio’u hymatebion neu nad ydynt yn teimlo bod eu hymatebion yn cael eu monitro
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn dymuno manteisio ar wasanaeth Undeb y Myfyrwyr, cysylltwch â Martin Jones yn y gofrestrfa ar JonesM5@cardiff.ac.uk neu ar 79284. Os oes gan eich myfyrwyr gwestiynau, cyfeiriwch nhw’n uniongyrchol at www.thestudentsurvey.com neu gallan nhw gysylltu â thîm yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol yn Ipsos MORI yn uniongyrchol ar thestudentsurvey@ipsos.com.
Meddai’r Athro Jonathan Osmond, Dirprwy Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr: “Mae’r Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol yn ffon fesur allweddol o ymateb ein myfyrwyr i’r addysg rydym yn ei rhoi ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’n ein helpu ni i atgyfnerthu ein cryfderau, ac i dargedu ein hymdrechion lle mae gwendid. Mae llawer o’r gwaith rydym wedi’i wneud ar asesu myfyrwyr a rhoi adborth yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi deillio o ganlyniadau’r NSS. Mae angen cyfraddau ymateb uchel arnom i gael data ystyrlon, a gobeithio y bydd pob cydweithiwr yn gwneud ei orau glas i annog y myfyrwyr i gymryd rhan.”

