Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Blwyddyn Newydd, Chi Newydd

31 Ionawr 2012

Mae Ionawr yn fis pan fydd cynifer ohonon ni'n dechrau byw'n iach, gan ddadwenwyno'r corff yn y flwyddyn newydd, rhoi'r gorau i ysmygu neu brynu un o'r DVDau ffitrwydd niferus sydd ar y farchnad. Ond faint ohonon ni sy'n dal ati wedi'r mis cyntaf, neu'r wythnos gyntaf hyd yn oed?

Yma, mae Dr Robert Richards, meddyg teulu yng Nghanolfan Iechyd y Brifysgol, yn cynnig awgrymiadau ardderchog i chi eu dilyn i fyw'n iach yn ystod 2012 a thu hwnt.

stop smoking

Rhowch y gorau i ysmygu – Rhoi'r gorau i ysmygu yw un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol i chi wella eich iechyd. Pan fydd pobl yn rhoi'r gorau i dybaco, mae eu cylchrediad a'u hanadlu'n gwella ymhen mis ac, yn dibynnu ar ba mor drwm maen nhw wedi bod yn ysmygu, mae'r perygl o gael clefyd y galon a chanser yr ysgyfaint yn ymdebygu i berson sydd heb ysmygu erioed ymhen ychydig flynyddoedd.

Os ydych chi'n bwriadu rhoi'r sigaréts yn y to, siaradwch â'ch meddyg teulu neu cysylltwch â Dim Ysmygu Cymru

cycle lane

Codwch o'r tu ôl i'ch desg – Dyw hi ddim yn hawdd bod yn egnïol pan fyddwch chi'n eistedd wrth ddesg drwy'r dydd ond mae newidiadau bach y gallwch eu gwneud i wella eich lefelau ffitrwydd fel:

  • Cerddwch i fyny'r grisiau yn lle cymryd y lifft lle gallwch chi.
  • Byddwch yn egnïol dros eich awr ginio - mae campfa'r Brifysgol yn cynnig nifer o ddosbarthiadau dros yr awr ginio neu beth am fanteisio ar ein lleoliad yng nghanol y ddinas a mynd am dro o gwmpas Parc Bute?
  • Beth am drechu'r traffig a dod yn fwy ffit ar yr un pryd drwy seiclo neu gerdded i'r gwaith? Ceir rhagor o wybodaeth am sut mae'r Brifysgol yn cefnogi seiclwyr yma
detox

Bwydo'r meddwl – does dim rhaid i fwyta'n iach fod yn boendod. Mae gwneud newidiadau bychain i'ch deiet fel bwyta rhagor o ffrwythau, llysiau a physgod yn gallu bod o fantais fawr.

Os ydych chi o ddifrif am golli pwysau, beth am gadw dyddiadur bwyd i chi weld beth yw cryfderau a gwendidau eich deiet? Ar ôl i chi weld lle rydych chi'n dueddol o fynd o chwith, wedyn gallwch chi weithio ar geisio torri'r arferion hynny.
Mae gwasanaethau bar ac arlwyo'r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o fwydydd iach - i gael gwybod rhagor ewch i visit wefan Arlwyo'r Brifysgol.

stress

Peidiwch â chael eich llethu gan straen – O bryd i'w gilydd, gall straen effeithio arnom i gyd ac er y dylem gofio ceisio mynd i'r afael â'r hyn sy'n achosi'r straen hwnnw, mae ffyrdd hefyd i ni ddysgu rheoli a lliniaru ei effeithiau. Mae rhaglen rheoli straen ar-lein y Brifysgol yn cynnig cefnogaeth sydyn a hawdd ynghylch deall arwyddion a symptomau straen, sgiliau rheoli ac addasu a holiaduron asesu i bennu'r lefelau straen.
Hefyd, mae'r Gwasanaeth Cwnsela'n cynnig gweithdai sy'n canolbwyntio ar roi gwybodaeth ddefnyddiol, syniadau a strategaethau i chi ynglŷn â sut mae ymdopi'n well ag anhawster penodol.

Fel gydag unrhyw newid yn eich ffordd o fyw, mae llwyddiant yn dod o'r meddylfryd cywir. Ddylai addunedau Blwyddyn Newydd ddim bod yn dargedau "popeth neu ddim byd" eithafol. Gosodwch dargedau realistig i'ch hun a pheidiwch â synnu os cewch chi ambell broblem. Gall newidiadau cadarnhaol i'ch ffordd o fyw fod yn anodd ond mae'n bosib eu cyflawni gydag amser a chynllunio.

Dolenni perthnasol

Iechyd a Lles yn y Gwaith

Safon Iechyd Gorfforaethol