Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Y newyddion yn gryno

19 Rhagfyr 2011

News in brief

Gwobr i gydnabod Caerdydd

Mae gwaith arloesol i ymchwil canser Caerdydd ar y cyd â China wedi ennill categori Cydweithredu Rhyngwladol yn y gwobrau blynyddol gan Times Higher Education. Enillodd y Brifysgol am ei chydweithredu â Capital Medical University yn China sy'n ceisio dod o hyd i ddulliau newydd o ganfod a thrin canser. Mae'r bartneriaeth yn cyfuno'r arbenigedd ymchwil a'r wybodaeth yn y ddau sefydliad er mwyn ceisio gwneud cynnydd gwirioneddol wrth fynd i'r afael â phwnc byd-eang - canser y fron. Meddai Paul Boyle, aelod o'r panel beirniaid, sy'n brif weithredwr cynorthwyol y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a hyrwyddwr ymchwil gyda Chynghorau Ymchwil y DU: "Mae'r prosiect hwn yn dangos y gwerth sy'n codi o ddod ynghyd ag arbenigwyr rhyngwladol sy'n gallu creu partneriaethau o safon byd sy'n gynaliadwy."

Mae rhagor o newyddion am wobrau, gan fod Cardiff News wedi cael ei enwi'n enillydd yn y categori cylchlythyrau neu gylchgronau yng Ngwobrau Cysylltiadau Cyhoeddus, Marchnata a Chyfathrebu Cymdeithas Prifysgolion y Gymanwlad (ACU).

Dywedodd y beirniaid ar ran ACU, sydd â 480 o aelodau prifysgolion ledled y Gymanwlad, fod Cardiff News yn gost-effeithlon, yn adlewyrchu gweledigaeth a chenhadaeth Prifysgol Caerdydd gan ychwanegu "papur newydd yw e, nid cylchlythyr."

Hefyd roedd tri Sefydliad Ymchwil y Brifysgol yn llwyddiannus yng nghategori'r gwefannau, a chawsant "sylw anrhydeddus" am eu gwefannau. Dywedodd y beirniaid fod y gwefannau, a luniwyd gan Dîm Gwefannau'r Brifysgol yn dangos "dyluniad gwych, gwe-lywio glân ac eglur iawn ac integreiddio cyfryngau cymdeithasol yn dda.

Cefnogi staff rhyngwladol

Mae'r Uned Her Cydraddoldeb yn ymgymryd ag arolwg o staff rhyngwladol sy'n gweithio ym maes addysg uwch ledled y DU. Diben yr arolwg yw nodi'r materion y mae aelodau o staff rhyngwladol yn eu hwynebu yn y sector, a'r meysydd allweddol lle byddai cefnogaeth bellach fwyaf buddiol.

Mae'r arolwg ar gyfer staff rhyngwladol sy'n gweithio mewn unrhyw rôl mewn sefydliad addysg uwch yn y DU ac nad ydynt yn dod yn wreiddiol o'r DU.

Bydd yr ymatebion i'r arolwg yn cael eu troi'n ddienw ac ni fydd modd adnabod unigolion, neu sefydliadau unigol. Bydd yr arolwg ar agor tan ddydd Iau 22ain o Ragfyr 2011. Os ydych chi'n aelod o staff rhyngwladol ym Mhrifysgol Caerdydd, ystyriwch gymryd rhan yn https://www.surveymonkey.com/s/supporting_international_staff

Carolau o gwmpas y goeden

Web Transformation

Mae Swyddfa'r Is-Ganghellor a'r Ysgol Gerddoriaeth yn gwahodd pob aelod o staff i ymuno â nhw i ganu carolau o gwmpas y goeden Nadolig yn oriel JVJ, y Prif Adeilad ddydd Mercher 21 Rhagfyr o 12.30 i 1.00 p.m. Bydd sieri a mins peis ar gael ar ôl y gwasanaeth, drwy haelioni Caplaniaeth Prifysgol Caerdydd. Hefyd bydd casgliad yn cael ei wneud i Gymdeithas Alzheimer, prif elusen Rhwydwaith Gweithredu Cymdeithasol a Chymdeithasol y Brifysgol.