Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Newyddion yn gryno - Ionawr 2012

31 Ionawr 2012

Codi arian i elusen

Mae menter parcio ceir elusennol yn y Prif Adeilad wedi codi bron i £1900 i ymchwil canser yng Nghymru.

Yn ystod y pum wythnos cyn y Nadolig, rhoddodd y Brifysgol ganiatâd i Ymchwil Canser Cymru – elusen Arglwydd Faer Caerdydd – gael defnyddio'r maes parcio a chodi tâl bychan i siopwyr barcio yno drwy'r dydd.

Codwyd cyfanswm o £1,845.28. Bydd yr arian yn mynd tuag at gefnogi gwyddonwyr talentog yn eu hymchwil canser i wella dulliau o'i drin a chynyddu'r cyfraddau gwella.

Cyfres Darlithoedd Mawreddog

Distinguished Lecture Series

Bydd un o'r prif arbenigwyr ym maes ynni'r haul yn cael ei groesawu i'r Brifysgol i roi'r ddarlith fawreddog olaf yn y gyfres bresennol.

Mae'r Athro Michael Graetzel yn Gyfarwyddwr Labordy Ffototonigau a Rhyngwynebau yn yr Ecole Polytechnique de Lausanne.

Mae wedi arloesi ymchwil i ynni ac adweithiau trosglwyddo electronau a'u defnydd mewn systemau trosi ynni'r haul ac wedi darganfod math newydd o gell haul sy'n seiliedig ar ronynnau ocsid lled-ddargludo crisialog sydd wedi'u sensiteiddio i lifynnau.

Bydd yr Athro Graetzel yn siarad yn y Brifysgol ddydd Iau 22 Mawrth 2012 am 6.30pm. I gadw lle yn ei ddarlith, anfonwch e-bost i publicbookings@cardiff.ac.uk

Cymrodoriaethau L'Oréal-UNESCO y DU ac Iwerddon i Fenywod ym maes Gwyddoniaeth

Mae Cymrodoriaethau L'Oréal-UNESCO y DU ac Iwerddon i Fenywod ym maes Gwyddoniaeth yn wobrau sydd wedi'u teilwra at anghenion gwyddonwyr sy'n ferched yn y DU ac Iwerddon. Maen nhw'n wobrau sy'n cael eu cynnig gan bartneriaeth rhwng L'Oréal y DU ac Iwerddon, Comisiwn Cenedlaethol y DU dros UNESCO a Chomisiwn Cenedlaethol Iwerddon dros UNESCO, gyda chefnogaeth y Gymdeithas Frenhinol. Eu bwriad yw hyrwyddo, dathlu, cyfoethogi ac annog rôl a chyraeddiadau menywod sy'n dilyn eu gyrfaoedd ymchwil yn y DU neu Iwerddon ym meysydd gwyddorau bywyd neu'r gwyddorau ffisegol.

Caiff pedair Cymrodoriaeth eu rhoi'n flynyddol i ferched sy'n wyddonwyr penigamp ar ddechrau eu gyrfa ac sy'n gwneud ymchwil ôl-ddoethuriaeth yn y DU neu Iwerddon ym maes gwyddorau bywyd neu'r gwyddorau ffisegol. Gellir dal y Cymrodoriaethau, sydd yn werth £15,000 yr un (gwerth € cyfatebol i ymgeiswyr yn Iwerddon), mewn unrhyw brifysgol yn y DU neu Iwerddon i gefnogi cyfnod o ymchwil 12 mis o hyd.

Gellir gwario'r wobr mewn ffyrdd arloesol fel y gall y gwyddonwyr ddilyn a pharhau eu gyrfa ymchwil – megis prynu offer, talu am ofal plant neu ariannu costau teithio i gynhadledd dramor. Am ragor o wybodaeth ewch i: http://www.womeninscience.co.uk/

Gwasanaethau Gwybodaeth – eich barn!

Mae arolwg y Gwasanaethau Gwybodaeth i staff ac Ôl-raddedigion Ymchwil ar gael tan ddydd Gwener 3 Chwefror.

Bydd yr arolwg hwn yn helpu i adnabod cyfleoedd i ddatblygu ein gwasanaethau i gefnogi anghenion ymchwil, dysgu, addysgu a gweinyddol y Brifysgol.

Gellir mynd at yr arolwg fel a ganlyn:

Yn Saesneg: https://www.surveys.cardiff.ac.uk/survey2012

Yn Gymraeg: https://www.surveys.cardiff.ac.uk/arolwg2012