Newyddion yn gryno
29 Hydref 2010
FameLab
Ai chi yw llais newydd cyfathrebu gwyddoniaeth?
Mae’r gwaith ar y gweill i chwilio am leisiau newydd cyfathrebu gwyddoniaeth yn rhan o gystadleuaeth newydd y DU i ddod o hyd i gyfathrebwyr gwyddoniaeth newydd dawnus.
Mae FameLab a sefydlwyd yn 2005 bellach yn gystadleuaeth ryngwladol a’i nod yw ysbrydoli gwyddonwyr a pheirianwyr i rannu eu brwdfrydedd am eu pynciau â’r cyhoedd.
Cynhelir cystadlaethau mewn dros 15 gwlad wahanol ac eleni, mae Goleufa Cymru yn llwyfannu un o chwe rhagbrawf rhanbarthol FameLab yr hydref hwn. Bydd y digwyddiad yng Nghaerdydd yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter ar 12 Tachwedd 2011.
Os ydych chi’n gweithio ym maes gwyddoniaeth, neu’n astudio gwyddoniaeth yn y DU ar hyn o bryd, ac yn meddwl y gallwch chi egluro cysyniad gwyddoniaeth, peirianneg neu fathemateg mewn ffordd ddiddorol i rai nad ydyn nhw’n wyddonwyr mewn tair munud yn unig, hoffai Tîm yr Oleufa glywed oddi wrthoch chi.
Bydd enillydd y rhagbrofion rhanbarthol yn cael cyfle i gymryd rhan mewn penwythnos Dosbarth Meistr gyda Kathy Sykes, Athro Gwyddoniaeth a Chymdeithas a Chyfathrebu Gwyddoniaeth, a Malcolm Love, sy’n hyfforddwr profiadol sy’n arbenigo yn y cyfryngau a sgiliau cyfathrebu. Wedyn byddan nhw’n cystadlu am deitl pencampwr FameLab yn y Rownd Derfynol Genedlaethol ar 21 Mawrth 2012 yn Sefydliad Brenhinol Prydain Fawr lle bydd cyfle iddyn nhw fynd â £1,750 adref i hyrwyddo eu gyrfa.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, cysylltwch â beacon@cardiff.ac.uk. Am ragor o wybodaeth am FameLab ewch i www.FameLab.org/uk
Gwyliwch ffilm hyrwyddo am FameLab
Cadw cysylltiad
Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod amrywiaeth o wasanaethau symudol newydd ar gyfer y tymor newydd ar gael i fyfyrwyr a staff. Os oes gennych Android, Blackberry neu iPhone/iPad, gallwch gael mapiau, cysylltiadau, newyddion, modiwlau a rhagor, yn ogystal â'r gallu i ddod o hyd i gyfrifiaduron sydd ar gael mewn llyfrgelloedd ledled y campws. Mae ein gwasanaethau craidd yn gweithio gyda phlatfformau setiau llaw eraill hefyd.
Mae App Prifysgol Caerdydd AM DDIM ac ar gael i'w lawrlwytho nawr. Ewch i www.caerdydd.ac.uk/mobile
Mynegi barn ynghylch lleoliadau gwaith celf
Bydd detholiad o waith celf sydd wedi’i roi i’r Brifysgol gan Gymdeithas Gelfyddyd Gyfoes Cymru (CASW) yn cael ei arddangos yn yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg ar ddydd Mercher 19 Hydref.
Yn ystod digwyddiad 19 Hydref, bydd cyfle i weithwyr y Brifysgol weld y gwaith celf a gwneud awgrymiadau o ran lle dylid arddangos y lluniau unigol yn yr hir dymor yn y Brifysgol. Y syniad yw defnyddio’r gweithiau celf gwreiddiol i wella ymddangosiad mannau cyhoeddus ledled y Brifysgol ac i annog diddordeb y staff, y myfyrwyr ac ymwelwyr mewn arlunwyr sydd â chysylltiad â Chymru.
Bydd yr arddangosfa’n cynnwys gwaith hynod bwysig gan Brendan Stuart Burns, sydd â stiwdio yng Nghaerdydd. Yn dilyn yr arddangosfa hon, bydd “Gleam”, sy’n seiliedig ar archwiliadau Brendan o arfordir Sir Benfro, yn cael ei osod yn adeilad newydd Hadyn Ellis. Yn y cyfamser, bydd yn cael ei arddangos yng nghyntedd yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg ynghyd â lluniau eraill mae CASW wedi’u rhoi i Brifysgol Caerdydd eleni.
Bydd y digwyddiad yn dechrau am 4.00pm yn atriwm yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg ac mae ar agor i aelodau staff a myfyrwyr. Nid yw archebu’n hanfodol, ond mae rhagor o wybodaeth ar gael gan yr Athro Tim Wess ar WessTJ@cardiff.ac.uk .

