Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Nyrsio yn Oman

16/05/2011

Mae pob myfyriwr oedd yn astudio rhaglen nyrsio a gyflwynwyd gan yr Ysgol Astudiaethau Nyrsio a Bydwreigiaeth yn Oman wedi graddio. Dyma ddisgrifiad Dr Dianne Watkins, Dirprwy Bennaeth yr Ysgol, o'r seremoni raddio yn Oman y buodd hi ac aelodau eraill y staff ynddi.

Seremoni graddio

“Daeth yr Ysgol Astudiaethau Nyrsio a Bydwreigiaeth i gytundeb gyda Sefydliad Nyrsio Arbenigol Oman (OSNI), yng Ngweinidogaeth Iechyd Swltaniaeth Oman yn 2008. Ym mis Mai 2009, cofrestrodd 27 myfyriwr gyda Phrifysgol Caerdydd i fod y garfan gyntaf i astudio BSc (Anrh.) ‘atodol’ mewn Astudiaethau Nyrsio yn OSNI dan arweiniad staff yr Ysgol.

“Mae’r cydweithrediad wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac mae wedi ei gymeradwyo’n fawr gan yr Athro Paul Dummer, y safonwr a benododd Prifysgol Caerdydd i oruchwylio ansawdd y rhaglen. Roedd y ffaith bod pob un o’r myfyrwyr wedi graddio gyda BSc (Anrh.) mewn Astudiaethau Nyrsio ym mis Gorffennaf 2010 yn brawf o lwyddiant y fenter hon. Aeth rhai o’r myfyrwyr i’n seremoni yng Nghaerdydd; fodd bynnag, cynhaliodd Oman ei seremoni raddio ei hun ym mis Chwefror 2011 i ddathlu’r cyflawniad nodedig hwn. 

“Cafodd Ei Ardderchogrwydd, y Gweinidog Iechyd, gweinidogion eraill, uwch-bersonél nyrsio yn Oman yn ogystal ag uwch-academyddion o Brifysgol Caerdydd eu croesawu i’r seremoni i gyfeiliant bagiau pib, sy’n draddodiad yn Oman. Roedd yn achlysur hynod arbennig gan fod pob Omani mewn gwisg draddodiadol a staff Prifysgol Caerdydd mewn mentyll academaidd.

“Cynhaliwyd y seremoni gan ddwy ferch o Oman sy’n astudio i fod yn nyrsys. Roeddynt mewn gwisgoedd traddodiadol hyfryd a lliwgar a chyflwynwyd darlleniad o’r Quoran. Bu dau fyfyriwr a oedd wedi ennill y radd BSc yn trafod yr hyn roeddynt wedi’i ddysgu yn sgil y rhaglen a sut roedd wedi dylanwadu ar eu datblygiad personol a’u harferion proffesiynol. Mwynhaodd y gynulleidfa a’r gwesteion pwysig y cyflwyniadau hyn yn fawr. Cymeradwywyd un o’r myfyrwyr gan y Prif Gyfarwyddwr Addysg a Hyfforddiant am ei haraith ragorol am beth oedd wedi’i ddysgu yn sgil y BSc a’i rôl fel nyrs yn hyrwyddo ac yn gofalu am iechyd a lles pobl Oman. 

“Cyflwynodd yr Athro Sheila Hunt araith am nyrsio fel proffesiwn sy’n gofalu, dysgu gydol oes a sut mae addysg yn gwella sut y cyflwynir gofal nyrsio i gleifion ar sail tystiolaeth. Canmolodd Dr Dianne Watkins am ei hymroddiad a’i brwdfrydedd wrth feithrin y cytundeb yn ogystal ag am ei hymroddiad at barhau i sicrhau bod y radd o’r ansawdd uchaf. Ei Ardderchogrwydd, Gweinidog Iechyd Oman, a gyflwynodd wobrau’r graddau. Diolchwyd i’r mentoriaid o OSNI am gefnogi’r myfyrwyr a chyflwynodd y Gweinidog Iechyd rodd iddynt. Dangoswyd fideo a baratowyd gan y myfyrwyr i’r gynulleidfa oedd yn dangos darlithwyr yr ysgol yn addysgu a’r myfyrwyr cynorthwyol yn Oman. Rhoddodd hyn gipolwg emosiynol a gwerthfawr o sut yr addysgir y BSc yn Oman yn ogystal â sut mae darlithwyr a myfyrwyr yn cymryd rhan yn y broses ddysgu.

“Cynhaliwyd cinio yn yr awyr agored ar ôl y seremoni oedd yn cynnwys bwyd a diodydd ffrwythau hyfryd Oman.

“Mae cyflwyno cymhwyster BSc (Anrh.) mewn Astudiaethau Nyrsio i nyrsys Oman yn garreg filltir yn ymdrechion yr Ysgol Astudiaethau Nyrsio a Bydwreigiaeth i gydweithio â gwledydd eraill. Roedd hwn yn achlysur pwysig ac arbennig ac roedd y bobl ganlynol yn bresennol: Deon a Phennaeth yr Ysgol, yr Athro Sheila Hunt; Dirprwy Bennaeth, Dr Dianne Watkins; Safonwr Prifysgol Caerdydd, yr Athro Paul Dummer; Rheolwr Rhaglenni, Meryl Jones; a Lorraine Joomun, darlithydd o Gaerdydd. Roedd y gwesteion pwysig yn cynnwys y Gweinidog Iechyd a’r cyn-weinidog iechyd; Cyfarwyddwr Materion Nyrsio a Bydwreigiaeth Oman, Prif Gyfarwyddwr Addysg a Hyfforddiant Oman; Deon Sefydliad Nyrsio Arbenigol Oman yn ogystal â Chyfarwyddwr Rhaglen y BSc, mentoriaid y myfyrwyr ac, wrth gwrs, graddedigion y cwrs a’u teuluoedd.”

Dolenni perthnasol

  • Yr Ysgol Astudiaethau Nyrsio a Bydwreigiaeth