Ysgrif Goffa: Yr Athro Nicholas John Fiddian
12/05/2010

Professor Nick Fiddian
Cafodd aelodau’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg eu tristáu’n fawr o glywed am farwolaeth yr Athro Nick Fiddian a fu farw ar 24 Ebrill ar ôl dioddef am rai misoedd o ganser.
Graddiodd Nick o London School of Economics ym 1969 gyda gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Economeg. Dilynwyd hyn gan MSc (Rhagoriaeth) mewn Cyfrifiadureg o Athrofa Cyfrifiadureg Prifysgol Llundain ym 1970. Ym 1976 graddiodd o Brifysgol Southampton gyda PhD mewn Meddalwedd Cyfrifiadur, yn canolbwyntio ar feta-gyfieithu. Yn ddiweddarach ymddangosodd ei ddull meta-gyfieithu mewn nifer o brosiectau blwyddyn olaf fel estyniadau i grynhoydd cyfrifiadur uwch a ddyluniodd ef yn benodol at ddibenion addysgu.
Ymunodd Nick â Choleg y Brifysgol, Caerdydd ar 1 Hydref 1973 fel Darlithydd yn yr Adran Mathemateg Cyfrifiadura a oedd newydd gael ei ffurfio. Roedd ei ddiddordebau ymchwil ar y pryd ym meysydd cyfieithu ieithoedd (crynhowyr), dylunio meddalwedd systemau, strwythurau data a systemau ffeilio. Esblygodd hyn yn ymchwil i beirianneg gwybodaeth a systemau gwasgaredig. Cafodd Nick ei benodi’n Bennaeth yr Adran ym 1995. Bu’n goruchwylio ei hesblygiad yn Adran Cyfrifiadureg. Yn ystod blynyddoedd diwethaf ei yrfa bu’n ymroi i ddatblygiad yr Adran. Bu’n Bennaeth dros gyfnod o dair blynedd ar ddeg a hanner, ac yn ystod y cyfnod hwn symudodd yr Ysgol ymlaen o radd 2 yr Ymarferiad Asesu Ymchwil i radd 5 a dyblodd o ran maint. Byddai’n arwain drwy osod esiampl wrth i’r gweddnewid hwn ddigwydd. Roedd yn dangos diddordeb mawr yn holl staff yr Ysgol, gan roi sylw arbennig i ddatblygiad eu gyrfa. Gydol ei yrfa ymdrechodd i gadw ‘drws agored’, gan geisio cael pobl i wneud eu gorau glas a chan gymryd diddordeb gwirioneddol yn eu gwaith.
Ymddeolodd Nick o’r Brifysgol ym mis Rhagfyr 2009. Bu’n ymwneud yn helaeth â Phwyllgorau’r Brifysgol ledled y Brifysgol, gan wneud yr holl waith gyda dogn da o hiwmor, argyhoeddiad a chraffter. Byddai ei gydweithwyr yn aml yn manteisio ar hyn i wella eu gwaith - roedd dogfen oedd yn “Nicked” wedi cyrraedd trothwy o ran ansawdd a oedd yn ennyn cryn barch. Roedd ei hiwmor sych, ei hoffter o fwyseiriau a’i agwedd gadarnhaol yn nodweddion ar gyfathrebwr ac ymchwilydd dawnus a thalentog. Ymddiddorai mewn chwaraeon, ac fel dilynwr brwd o Tottenham Hotspurs gydol ei fywyd, byddai dadansoddi a thrafod pêl-droed yn aml yn brigo i’r wyneb wrth ymdrin â gwahanol faterion. Roedd hefyd yn dwlu ar rygbi, ac yn dilyn y Scarlets a Chymru. Byddai ei foreau Llun yn llawer mwy dymunol os oedd Cymru wedi ennill ar y dydd Sadwrn, yn enwedig os mai Lloegr oedd y gwrthwynebwyr! Efallai na wyddai llawer o bobl fod gan Nick ddiddordeb mawr hefyd mewn injans stêm a’i fod yn ddiweddar wedi bod yn gyrru injans lein fach yng Ngogledd Cymru, un o’i hoff fannau i ymlacio, yn ail agos i wyliau teuluol yn Sir Benfro.
Câi Nick ei arwain gan argyhoeddiad moesol a chrefyddol cryf, a cheisiai fod yn deg a cholegol ar bob achlysur. Byddai’r gwerthoedd tegwch yn ymestyn i bawb y byddai’n ymwneud â nhw. Daeth gofal a sylw i fyfyrwyr yn ethos greiddiol a blannodd yn yr Ysgol a’i pholisïau. Roedd Nick hefyd yn credu’n gryf yn y teulu a gwerthoedd teuluol. Roedd hi’n briodol fod ei wraig Pat, ei blant a’i wyrion wedi’i gefnogi gydol ei salwch a’u bod nhw gydag ef pan fu farw. Bydd ei gydweithwyr ledled yr Ysgol a’r Brifysgol i gyd yn gweld ei eisiau’n fawr. Caiff ei gofio fel dyn da, caredig a gofalgar.

