Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Ar dy feic

05/09/2011

Bikes

Gyda phrisiau petrol yn dringo'n uwch, traffig ar gynnydd wrth i bawb ddychwelyd i'r gwaith a'r ysgol, a hyd yn oed llygedyn o heulwen, beth fyddai'n well na gadael y car adref a defnyddio'r beic?

Mewn ymgais i annog staff i fanteisio ar neu ailddarganfod y pleserau ddefnyddio dwy olwyn, mae'r Brifysgol wedi ymuno â sefydliadau ar draws y ddinas i gystadlu yn y Her Seiclo Caerdydd, sydd â'r nod o atgoffa pobl am y manteision o reidio beic.

Yn yr Her, byddwn yn cystadlu yn erbyn Cyngor Caerdydd a Legal & General i weld pwy a all berswadio'r nifer uchaf o staff i reidio beic am o leiaf 10 munud o ddydd Llun 12 Medi i ddydd Sul 2 Hydref.

P'un a ydych am arbed arian, dod yn fwy ffit a cholli pwysau, neu os ydych chi wrth eich bodd yn cystadlu, mae'r Her hon yn addas bawb. Drwy gadw cofnod o'ch teithiau ar wefan Her Seiclo Caerdydd gallwch fonitro faint o filltiroedd rydych wedi'u cyflawni, p'un a ydych ond yn mynd yn ôl ac ymlaen i'r gwaith, neu p'un a ydych chi'n seiclo er mwyn pleser, gallwch weld faint o galorïau rydych chi wedi'u llosgi, a gallwch hyd yn oed weld sawl cilogram o allyriadau carbon rydych chi wedi'u harbed. Gallwch hefyd gymharu'ch ystadegau â'ch cydweithwyr o fewn eich tîm neu'ch adran, a gweld perfformiad y Brifysgol yn gyffredinol.

Mae Valarie Greer o Grŵp Defnyddwyr Beiciau'r Brifysgol, yn annog cymaint o staff â phosibl i gofrestru: "Mae'r fenter hon yn gyfle gwych i unigolion o bob oed gymryd rhan, p'un a ydych chi'n mynd ar gefn beic am y tro cyntaf erioed, yn ailddarganfod hen feic sydd wedi bod yn eistedd yn y sied ers blynyddoedd, neu os ydych chi am gofnodi'r daith rydych yn ei gwneud bob dydd.

Ers nifer o flynyddoedd mae'r Brifysgol wedi bod yn cymryd camau gweithredol i annog staff i feicio i'r gwaith. Ychwanegodd Valerie "Mae raciau beiciau mwy o faint, mwy gweladwy, arwyddion gwell ar gyfer y llwybrau a mapiau o gyfleusterau i ddefnyddiwr beic o amgylch y campws, wedi cael eu datblygu, ac mae'r cynllun  ac mae'r cynllun positiveBenefits, 'positiveCycling', yn caniatáu i aelodau o staff i brynu beic drwy'r cynllun aberthu cyflog."

"Y peth gwych am yr Her hon yw nad yw ond ar gyfer y rhai sy'n beicio i'r gwaith. Os ydych yn byw yn rhy bell i ffwrdd, mae'n bosibl i chi feicio'n lleol yn eich amser hamdden a chofnodi eich milltiroedd ar y wefan"

I gael gwybod mwy am yr her neu i gofrestru, ewch i wefan Her Seiclo Caerdydd yn www.cardiffcyclechallenge.org.uk