Myfyrwyr disglair o America yn cyrraedd
11/07/2011

Yr wyth myfyriwr gyda’r Prif Weinidog Carwyn Jones (chwith) a’r Athro Jonathan Osmond, Dirprwy Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr.
Mae wyth o fyfyrwyr disgleiriaf UDA yn cael eu cyflwyno i ddiwylliant, hanes, gwleidyddiaeth a thirwedd Cymru drwy Sefydliad Haf newydd arloesol.
Mae Comisiwn enwog Fulbright rhwng Prydain a’r Unol Daleithiau wedi penodi Prifysgolion Caerdydd, Bangor ac Aberystwyth i gynnal Sefydliad Haf Fulbright Cymru am y tro cyntaf. Bydd y myfyrwyr sydd ar ymweliad yn dysgu am ddiwylliant, hanes, gwleidyddiaeth a daearyddiaeth Cymru a’r dylanwad hanfodol sydd gan ddiwydiant ar ddigwyddiadau, lleoedd a phobl y wlad. Dros chwe wythnos, byddant yn teithio o amgylch y wlad, yn cwrdd â phobl ac yn ymweld â rhai o’r lleoliadau allweddol sydd wedi gwneud Cymru yn wlad mor amrywiol a hynod.
Mae’r myfyrwyr newydd ddechrau ar eu pythefnos gyntaf yng Nghaerdydd, lle byddant yn ymchwilio i’r newid yn economi a diwydiant yng Nghymoedd De Cymru a phorthladdoedd yr arfordir dros y tair canrif ddiwethaf, gan ofyn cwestiynau am ddiwylliant, hunaniaeth ac iaith Cymru. Ym Mangor wedyn byddant yn archwilio effaith diwydiannau megis twristiaeth, y chwareli llechi a ffermio’r ucheldir, a sut gall cenedl fach gadw ei hunaniaeth mewn cyfnod byd-eang. Yn olaf, ym Mhrifysgol Aberystwyth, byddant yn edrych ar Gymru a’i pherthynas gyda’r byd mawr a dechrau meddwl am y ffyrdd gwahanol mae Cymru am wynebu heriau’r dyfodol.
Israddedigion yw’r wyth sydd wedi eu dewis drwy gystadleuaeth o brifysgolion ar hyd a lled yr Unol Daleithiau, o Seattle i Dde Florida. Croesawyd hwy i Gymru mewn derbyniad arbennig yn y Senedd gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones. Pwysleisiodd y Prif Weinidog y cysylltiadau hanesyddol rhwng Cymru a’r UD a dymuno y câi’r myfyrwyr amser pleserus a chofiadwy.
Croesawyd y myfyrwyr hefyd gan Ddirprwy Is-Ganghellor Caerdydd dros Addysg a Myfyrwyr, yr Athro Jonathan Osmond, a diolchodd i Gomisiwn Fulbright am greu’r Sefydliad. Dywedodd Penny Egan, Cyfarwyddwr Gweithredol y Comisiwn, wrth y myfyrwyr: “Rwy’n gobeithio y byddwch yn llysgenhadon dros y prifysgolion yma, ac yn rhoi Cymru yn fwy cadarn ar y map fel lle anhygoel i ddod ac astudio.”
Dywedodd un o’r myfyrwyr, Jordan Shapiro o Vermont, sy’n gwneud gradd meistr mewn Hanes ym Mhrifysgol Rochester: “Mae’n anrhydedd bod yn rhan o hyn. Mae pawb wedi bod yn groesawgar iawn ac ni allaf aros am yr wythnosau sydd i ddod. Mae’n gyfle rhyfeddol i ddysgu am hanes Cymru, a gweld a phrofi’r hanes yn y mannau lle digwyddodd y cyfan.”
Bydd pob adran o’r cwrs yn cynnwys gwaith cwrs academaidd, gan dynnu ar yr arbenigeddau ymchwil ac addysgu a gydnabyddir yn rhyngwladol sydd gan y tair prifysgol. Bydd y myfyrwyr hefyd yn mynychu digwyddiadau diwylliannol ac yn ymweld â safleoedd hanesyddol i ennill dealltwriaeth am ranbarthau nodedig Cymru.
Dywedodd Cyfarwyddwr y Cwrs ar gyfer rhan Prifysgol Caerdydd, Dr Bill Jones o Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd y Brifysgol: “Mae’n gamp fawr i Gymru fod wedi sicrhau Sefydliad Haf gyda chorff sydd gymaint ei fri â Chomisiwn Fulbright. Mae hwn yn grŵp talentog dros ben o fyfyrwyr ac rwy’n siwr y byddant yn rhoi golwg newydd ar y ffordd mae diwydiant wedi llunio diwylliant, hanes, gwleidyddiaeth a thirwedd Cymru. Byddant hefyd yn cael dealltwriaeth o’r rhanbarthau a’r bobl nodedig sydd gyda’i gilydd yn ffurfio’r wlad hudol sydd gennym.”
Mae Comisiwn Fulbright wedi bod yn hyrwyddo heddwch a chyd-ddealltwriaeth ddiwylliannol drwy ysgoloriaethau addysgol am fwy na 60 mlynedd. Mae Sefydliadau Haf y DU yn fenter newydd, wedi’u bwriadu i gyflwyno myfyrwyr i’r Deyrnas Unedig, gan ddatblygu eu sgiliau academaidd ac annog arweinyddiaeth ynddynt ar yr un pryd. Wedi dychwelyd i’r Unol Daleithiau byddant yn mynd yn llysgenhadon dros astudio yn y DU.

