Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Credoau am rianta

12/05/2010

Mother and Baby

Mae cais i rieni rannu eu profiadau eu hunain o ofalu am eu plentyn er mwyn helpu i adeiladu darlun mwy cyflawn am ddatblygiad plant bach yn rhan o astudiaeth newydd gan yr Ysgol Seicoleg.

Mae Alice Winstanley o’r Ysgol yn arwain prosiect ymchwil sy’n archwilio’r strategaethau y mae rhieni yn eu defnyddio wrth ofalu am blant a sut mae’r strategaethau hynny’n effeithio ar blant.

Hyd yma, mae llawer o ymchwil wedi dangos sut mae datblygiad plentyndod cynnar yn gallu cael ei lunio gan amgylcheddau cymdeithasol cynnes a sensitif a’r gwahanol fathau o ryngweithio sydd gan faban newydd-anedig â’i rieni. Ond nid yw’n eglur a yw’r strategaethau rhianta yno wrth i’r plentyn gael ei eni neu a ydyn nhw’n cael eu dysgu o ganlyniad i’r profiadau y mae rhieni’n eu hwynebu ar ôl i’w plentyn gael ei eni.

Mae gwahoddiad i rieni lenwi holiadur ar-lein i roi adborth am ymddygiad eu baban, yn enwedig arferion cysgu, bwydo a chrio eu baban. Hefyd gofynnir i rieni ddisgrifio eu harferion a’u strategaethau wrth ofalu am eu baban.

Mae’r arolwg yn cymryd tua deg munud i’w gwblhau a bydd pob ymateb yn ddienw. Bydd y data’n cael ei ddefnyddio i edrych i weld a yw barn a phrofiadau rhieni o ran gofal yn amrywio yn y boblogaeth yn gyffredinol. Y gobaith yw y bydd yr ymchwil yn bwrw golwg ar pam mae pobl yn dewis gofalu am eu baban mewn gwahanol ffyrdd.

Wrth sôn am yr astudiaeth, meddai Alice: “Er gwaetha’r nifer mawr o lyfrau a chyngor sydd ar gael i rieni am sut i ofalu am eu baban, ychydig iawn o ddata sydd ynghylch a yw rhieni’n defnyddio’r cyngor hwn, a phryd. Yn ogystal, ychydig iawn wyddom ni am sut gall y gwahanol ddulliau o roi gofal lunio datblygiad babanod. Nod yr astudiaeth hon yw dechrau pontio’r bwlch hwn.

“Mae llenwi’r darlun am ddatblygiad plentyn yn bwysig oherwydd bydd deall y llu o lwybrau datblygiad yn bwydo gwybodaeth i raglenni rhianta a rhaglenni addysg i blant, yn ogystal â pholisi cyhoeddus.”

Mae’r tîm ymchwil yn chwilio am rieni sy’n disgwyl plentyn neu sydd â baban o dan 18 mis oed i gymryd rhan yn yr astudiaeth. Mae’r Holiadur Gofal Babanod ar http://www.surveymonkey.com/s/S3M88HW . Gall rhieni sydd heb fynediad i’r rhyngrwyd gymryd rhan drwy ofyn am holiadur gan Grŵp Ymchwil Datblygiad yng Nghaerdydd (Development@Cardiff Research Group) ar 029 2087 6190.

Yn ogystal â rhoi gwybodaeth am strategaethau rhianta bydd y canlyniadau hefyd yn cyfrannu i astudiaeth arhydol yn y dyfodol a fydd yn edrych ar anghenion cymdeithasol a gwybyddol babanod cynamserol.